25% of survey complete.
Mae Childnet, fel rhan o Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, yn ymgynghori ag ysgolion ynghylch yr arferion gorau a’r bylchau o ran sut mae ysgolion sy’n cynnwys diogelwch ar-lein mewn Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Economaidd (ABGI) ac Addysg Rhyw a Pherthnasoedd (RSE).

Y cyd-destun

Mae’n hanfodol bod RSE ac ABGI yn addas ar gyfer yr oes ddigidol, gan ymdrin â materion fel cyfeillgarwch ar-lein, seiberfwlio, camfanteisio rhywiol ar-lein, pwysau gan gyfoedion ar-lein, cydberthnasau digidol iach, secstio a phornograffi.

Mae nawr yn adeg bwysig i ddylanwadu ar hyn:

1.     Am y tro cyntaf erioed o fis Medi 2019 ymlaen bydd yn rhaid i blant oedran cynradd mewn ysgolion yn Lloegr gael Addysg Perthnasoedd a bydd yn rhaid i bob plentyn ysgol uwchradd gael Addysg Rhyw a Pherthnasoedd (RSE).

2.     Mae’r Adran Addysg yn ystyried gwneud Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (ABGI) yn orfodol ym mhob ysgol yn Lloegr hefyd.

3.     Fe wnaeth Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sefydlu panel arbenigol i ddarparu cyngor a chefnogaeth i Lywodraeth Cymru ar faterion ynghylch cyflwyno addysg Perthnasoedd Iach yn y cwricwlwm cyfredol yng Nghymru ym mis Mawrth 2017.

Dweud eich dweud

Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn gallwch helpu i ddylanwadu ar addysg RSE ac ABGI er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu bywydau digidol plant.

Rydym yn awyddus iawn i ddod o hyd i enghreifftiau o arferion gorau mewn ysgolion ledled y DU ynghylch hyn, yn ogystal â chanfod bylchau a heriau.

Rydym yn estyn gwahoddiad i ysgolion lenwi’r arolwg byr isod a ddylai gymryd tua 15 munud.

Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch ag education@childnet.com.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 12ed Rhagfyr 2017

Question Title

* 1. Rwy’n cadarnhau fy mod yn fodlon cymryd rhan yn yr arolwg hwn

Question Title

* 2. Rwy’n caniatáu i enw fy ysgol gael ei gynnwys mewn unrhyw ddeunydd sy’n cael ei gyhoeddi 

T