Cyn ichi ddechrau

Diolch am fynegi diddordeb mewn ymuno â’r cannoedd o sefydliadau lleol sy’n rhan o Aelodaeth SCVS.

Mae’r ffurflen ganlynol yn berthnasol i geisiadau am statws ‘Aelod o SCVS’ gan sefydliadau yn y trydydd sector yn unig – os dymunwch chi geisio am statws fel ‘Cefnogwr(aig) SCVS’, cysylltwch â Gail yn SCVS ar 01792 544011 / gail_hanlin@scvs.org.uk

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl – ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais oni fyddwch chi’n ei gwblau’n llawn. 

Mae’n well ichi lenwi’r ffurflen i gyd ‘ar un eisteddiad’ os gallwch chi, ond cyhyd â’ch bod chi’n defnyddio’r un cyfrifiadur bob tro fe ddylai fod yn bosibl ichi gau / mynd allan o’r arolwg a dychwelyd ato’n nes ymlaen i gwblhau’r ffurflen gan ddefnyddio dolen y ffurflen aelodaeth sydd ar wefan SCVS (os gadewch chi’r broses cyn cyrraedd y botwm 'done' ar y diwedd).

Neilltuwch 10-15 munud i gwblhau’r ffurflen i gyd. Cewch 'bastio’ testun i’r ffurflen trwy ddefnyddio ctrl+v.

Fe ofynnir ichi uwchlwytho copi wedi’i lofnodi o’ch cyfansoddiad / dogfen lywodraethu (sef rheolau’r sefydliad) er mwyn i’ch aelodaeth chi gael ei chymeradwyo. Os nad yw hyn yn bosibl, cysylltwch â Gail cyn dechrau,gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

Question Title

* “Rwyf yn cadarnhau bod y sefydliad sy’n ceisio am Aelodaeth SCVS yn sefydliad cyfansoddedig yn y trydydd (gwirfoddol / cymunedol) sector, sy’n creu buddion yn Ninas / Sir Abertawe”

T