Screen Reader Mode Icon

Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gofyn am farn pobl ynglŷn â sut i wella'r ardal i gerddwyr yn unig yng Nghanol Tref Cil-y-coed fel rhan o’r rhaglen adfywio ehangach o fewn y Dref.  

Yn ystod mis Mawrth 2021, roeddem wedi rhannu dyluniadau cychwynnol gyda’r gymuned ehangach. Rydym wedi darllen a gwrando ar yr adborth a’r sylwadau cychwynnol a nawr yn cyflwyno cynllun mwy manwl.

Roeddem wedi gobeithio cynnal ymgynghoriad “Wyneb i Wyneb”  yn y dref, ond yn sgil Covid-19 a’r angen i gadw pellter cymdeithasol, rydym yn defnyddio ffyrdd digidol er mwyn rhannu ein hoff gynllun. Byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn edrych ar y cynigion yma ar ein gwefan cyn cwblhau’r arolwg. Rydych hefyd yn medru edrych arnynt mewn arddangosfa yng Nghanol y Dref. 

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg yma yw dydd Mercher, 31ain Mawrth 2021.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, yna e-bostiwch  MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk. 

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
0 of 13 answered
 

T