Mapio darpariaeth sector gwirfoddol i gynorthwyo pobl ifanc i gymryd rhan

Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad sector gwirfoddol sy’n cynorthwyo pobl ifanc 14-18 oed i gymryd rhan neu aros mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a fyddech cystal â llenwi’r holiadur hwn.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei chynnwys mewn map Cymru gyfan o ddarpariaeth sector gwirfoddol sy’n cynorthwyo pobl ifanc 14-18 oed i gymryd rhan neu aros mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Ar ddiwedd yr ymarfer mapio bydd pob ardal awdurdod lleol yn derbyn map o’r ddarpariaeth sector gwirfoddol berthnasol sy’n gweithredu yn eu hardal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cordis Bright i gynnal yr ymarfer mapio cenedlaethol hwn er mwyn:

1. Codi proffil y sefydliadau sector gwirfoddol sy’n gweithio yn y maes hwn.

2. Gwella mapiau o’r ddarpariaeth leol a ddefnyddir gan weithwyr arweiniol sy’n cynorthwyo pobl ifanc a) nad ydynt mewn addysg ysgol neu bellach, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), neu b) sydd mewn perygl o ddieithrio o’r ysgol neu o fynd ymlaen i fod NEET.

3. Annog gwaith partneriaeth agosach rhwng y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.

4. Cefnogi’r gwaith o ddarparu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi i gymryd rhan a gwneud cynnydd mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Cyn cwblhau’r holiadur hwn, nodwch:

1. Dim ond sefydliad sector gwirfoddol ddylai gwblhau’r holiadur hwn. Ni fydd cwmnïau preifat a darpariaeth awdurdod lleol yn cael eu cynnwys yn y mapiau.

2. Os ydych chi’n gweithio i sefydliad sy’n darparu mwy nag un rhaglen/prosiect penodol, dylech gwblhau holiadur ar wahân ar gyfer pob rhaglen/prosiect. Gall rhaglenni/prosiectau penodol gynnwys y rhai â chynulleidfaoedd targed, meini prawf cymhwysedd, prosesau atgyfeirio, dulliau darparu a/neu ganlyniadau bwriedig gwahanol.

3. Mae canllawiau ac atebion enghreifftiol wedi’u cynnwys mewn italig ochr yn ochr â’r cwestiynau unigol.

T