Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar ran Partneriaeth Treftadaeth Treflun Blaenafon wedi gofyn i Chris Jones Regeneration gynnal gwerthusiad o Brosiect Treftadaeth Treflun Blaenafon.
Cafodd cyllid ar gyfer y prosiect ei gymeradwyo yn haf 2018, a chyn cychwyn ar y gwaith, hoffem ddeall beth yw eich barn ar rôl treftadaeth yng nghanol y dref. Rydym yn bwriadu dod yn ôl atoch yn haf 2020 i ddeall eich barn hanner ffordd drwy’r gwaith ac yn 2022 pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau. Yn ogystal â chefnogi perchnogion eiddo lleol gyda gwelliannau i adeiladau, mae’r prosiect yn ymwneud hefyd â hybu gwybodaeth o hanes y dref a chefnogi gweithgarwch cymunedol o fewn yr ardal gadwraeth. Mae gweithgareddau penodol yn cynnwys:
- Grantiau ar gyfer atgyweiriadau ar sail treftadaeth i adeiladau yng nghanol y dref - Gweithgareddau ysgolion cynradd a fydd yn helpu hybu gwybodaeth leol ee arddangosiad ar Dreflun Blaenafon - Sgiliau adeiladu traddodiadol a gwybodaeth o weithio ar adeiladau hanesyddol ac o fewn ardal gadwraeth y dref. - Helpu perchnogion i gael gwybodaeth ar gyfer cynnal a chadw gan ddefnyddio mwy o sgiliau traddodiadol - Cyfres o weithgareddau ar gyfer cynnwys y gymuned trwy deithiau cerdded ac arddangosfeydd - Cynhyrchu ffilm ddogfen gymunedol ar hanes Blaenafon - Gweithgareddau a diwrnod dathlu Treftadaeth y Byd - Cyhoeddi llyfr ar dreflun Blaenafon - Cread byrddau dehongli ar gyfer adeiladau a safleoedd adeiladu - Datblygu arddangosfeydd cymunedol
Byddem yn ddiolchgar felly os gallech chi gwblhau’r arolwg fel y gallwn ddeall eich agweddau yn ogystal â sut y gallech chi fod eisiau cymryd rhan. Mae gennych hyd at ddydd Gwener, 29 Mawrth 2019 i gwblhau’r arolwg.
Er nad oes rhaid ichi gwblhau adrannau 1-8, bydd unrhyw atebion i’r cwestiynau hyn yn helpu’r ymchwil sy’n cael ei wneud i pwy sy’n elwa o Gyllid Cronfa Dreftadaeth Genedlaethol y Loteri. Os oes gennych gwestiynau penodol ynglŷn â’r arolwg, e-bostiwch chris@chrisjonesregeneration.co.uk. Diolch am eich cyfraniad at y broses.