Pam Ydym Ni Yma?

Mae Cyngor Tref Cas-gwent a Chyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda’i gilydd ar Gynllun Tref a fydd yn llywio gweithgareddau adfywio ar gyfer y dref yn y dyfodol ac yn sicrhau bod Cas-gwent yn dref ddeniadol a hyfyw yn y dyfodol ac yn medru gwasanaethu trigolion ac ymwelwyr presennol a’r cenedlaethau i ddod. 
 
Dros y chwe mis diwethaf, mae wedi bod yn adolygu sylwadau o’r gwaith ail-wampio sydd wedi ei wneud mewn trefi eraill fel Cynllun Lle Cas-gwent, a chynigion eraill sydd yn cael eu datblygu fel prosiect hwb trafnidiaeth y dref a syniadau i wella teithio llesol.  Mae’r ddau fudiad partner nawr yn rhannu syniadau ac am glywed eich sylwadau fel eu bod yn medru sicrhau bod y cynigion yn diwallu anghenion pobl leol a bod modd eu gweithredu.   
 
Mae’r arolwg yma yn rhoi’r cyfle i chi ddweud eich dweud. Cyn cwblhau’r arolwg, rydym yn gofyn i chi ddod i edrych ar y cynigion yn ein digwyddiadau ymgynghori wyneb i wyneb neu drwy edrych arnynt ar-lein yma - www.monmouthshire.gov.uk. I’r sawl sydd wedi cwblhau copi papur o’r arolwg, mae modd i chi adael y copïau papur yma yn swyddfeydd Cyngor Tref Cas-gwent neu lyfrgell Cas-gwent.
 
Unwaith ein bod wedi derbyn yr holl sylwadau, bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi a chynllun drafft yn cael ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r sylwadau sydd wedi eu gwneud. Os ydych am gael gwybod am ddatblygiadau’r dyfodol,  dylech nodi eich manylion cyswllt ar ddiwedd yr arolwg.   
 
Bydd angen cwblhau’r arolwg yma erbyn dydd Llun 30ain Medi.
 
Os oes unrhyw gwestiynau penodol gennych am yr arolwg, yna e-bostiwch  MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk. 
 
Diolch i chi am eich cyfraniad i’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn. 

T