Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i bartneriaid wedi bod yn datblygu cynllun ar gyfer canol tref Abergele dros y misoedd diwethaf, gyda chymorth Ymgynghorwyr Adfywio Chris Jones. Ym mis Medi, cynhaliom ddigwyddiad ymgynghori i wrando ar eich problemau a’ch syniadau. Mae gennym bellach nifer o gynigion a fydd yn gwella bywiogrwydd a hyfywedd a hoffem glywed eich barn.
Gan hynny byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi munud neu ddwy o’ch amser i roi adborth i ni am y cynigion hyn a’r blaenoriaethau wrth fynd ymlaen. Cyn cwblhau’r arolwg, efallai yr hoffech weld y cynigion ar wefan Cynllun Lleoedd Abergele ble mae’r dogfennau ar gael (http://www.conwy.gov.uk/clla).
Os hoffech wybod mwy am yr arolwg hwn ac astudiaeth canol y dref, cysylltwch â Chris Jones yn Chris Jones Regeneration ar 01873 880666 neu e-bostiwch chris@chrisjonesregeneration.co.uk. Sylwch fod angen anfon unrhyw ymatebion erbyn dydd Gwener 28 Hydref 2016.
Diolch am roi o’ch amser i lenwi’r arolwg hwn.