Check SCREEN READER MODE to make this survey compatible with screen readers.
Hwyl Fawr i Ddigartrefedd
Beth yw eich barn chi?
Mae’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn craffu ar yr hyn sydd angen i Gymru ei wneud i ddod â digartrefedd i ben.
Hoffem glywed eich syniadau chi am y pethau sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen newid er mwyn sicrhau cartref diogel i bawb.
Yn ogystal, mae gennym gwestiynau ychwanegol am gysgu allan oherwydd rydym ni eisiau sicrhau bod Llywodraeth Cymru nawr yn gallu gwneud pethau i helpu pobl ar y stryd, ond mae gennym ddiddordeb mewn clywed am bob math o ddigartrefedd (e.e. aros ar soffas ffrindiau neu deulu, byw mewn hostelau neu lety gwely a brecwast ac ati).
Bydd popeth y byddwch yn dweud wrthym fel rhan o’r arolwg hwn yn helpu’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ddeall sut mae gwasanaethau ledled Cymru yn gallu helpu pobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi yn well.