Screen Reader Mode Icon
Yn gynnar yn 2020, cynhaliodd Gwyrddio Penarth Greening (GPG) gyfarfod cyhoeddus i ddarganfod beth yr oedd pobl Penarth eisiau ei flaenoriaethu o ran gweithredu amgylcheddol.

Nododd hyn yr hoffai trigolion Penarth “Llyfrgell Pethau” yng nghanol y dref er mwyn galluogi benthyg eitemau cartref na ddefnyddir yn aml ac ail-osod eitemau diangen i atal eu gwaredu i safleoedd tirlenwi.
Mae GPG bellach wedi sicrhau cyllid i gychwyn Llyfrgell Pethau ym Mhenarth o'r enw Benthyg Penarth, gyda chefnogaeth gan Benthyg Cymru. Bydd hwn wedi'i leoli yn Rowley's ar Stryd Glebe, gydag eitemau ar gael i'w cadw ar-lein, a beic cargo i alluogi danfoniadau a chasgliadau i bobl sydd yn cael anhawster i ymweld a chanol y dref.

 Atebwch y cwestiynau yn yr arolwg hwn os gwelwch yn dda fel y gallwn ddeall mwy am sut rydych chi am ddefnyddio Benthyg Penarth.

Question Title

* 1. Ydych chi wedi clywed am y cysyniad o Lyfrgell Pethau?

Question Title

* 2. Pa mor debygol fyddech chi o ddefnyddio Benthyg Penarth i fenthyg eitemau am daliad bach?

Question Title

* 3. Os yn debygol, nodwch y mathau o eitemau yr hoffech eu benthyg o Benthyg Penarth. (ticiwch bopeth sy'n berthnasol)

Question Title

* 4. Pa mor debygol ydych chi o roi eitemau i Benthyg Penarth?

Question Title

* 5. Os yn debygol, nodwch y mathau o eitemau yr hoffech eu rhoi. (ticiwch bopeth sy'n berthnasol)

Question Title

* 6. Hoffech chi wirfoddoli gyda Benthyg Penarth? Os felly, sut allech chi gyfrannu? (ticiwch bopeth sy'n berthnasol)

Question Title

* 7. Os ydych wedi dweud y byddai gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, rhowch eich enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost fel y gallwn gadw mewn cysylltiad am y cyfleoedd sydd ar ddod.

Hysbysiad Preifatrwydd Diogelu Data:

Mae Benthyg Penarth yn prosesu data personol yn rheolaidd. Os ydych wedi ymwneud â ni, efallai y byddwn yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi: gelwir hyn yn ddata personol.

Bydd unrhyw wybodaeth sydd gennym yn cael ei phrosesu yn unol â'r egwyddorion a nodir gan Reoliadau ICO, ac yr ydym yn cydymffurfio â hwy. Gweler ein gwefan am ragor o fanylion

0 of 7 answered
 

T