Diolch i chi am ystyried cymryd rhan yn ein holiadur cydraddoldeb. Byddem yn ddiolchgar pe baech yn ateb y cwestiynau isod, sy’n gwbl ddewisol. Os nad ydych yn gyfforddus yn ateb unrhyw gwestiwn penodol, ticiwch y blwch a nodir ‘Well gen i beidio â dweud’.
Mae’r cwestiynau isod yn cyfeirio at yr unigolyn a ddioddefodd y broblem. Os ydych chi wedi cwyno ar ran rhywun arall, byddem yn ddiolchgar pe baech yn fodlon eu helpu i gwblhau'r holiadur hwn.