Screen Reader Mode Icon
Diolch am gytuno i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil yma.
 
Prosiect ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru ac Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth yw’r Ymchwil Ffioedd Awduron. Fel y cwmni cenedlaethol dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru, rydym yn hyrwyddo arferion cyflogaeth deg i awduron, gan gynnwys ffioedd teg. Rydym yn gwybod fod awduron yn aml yn dibynnu ar incwm o ddigwyddiadau, comisiynau, gweithdai, a pherfformiadau, ac y dylent gael eu talu’n deg am eu hamser ac fel cydnabyddiaeth am eu sgiliau proffesiynol. Mae dyletswydd arnon ni hefyd i sicrhau ffioedd hygyrch i gynulleidfaoedd sy’n mynychu gweithgareddau llenyddol ac i ystyried cyd-destun ariannol y sector lenyddol.
 
Bydd yr ymchwil yma, sydd â’r nod o gasglu data i archwilio safbwyntiau, profiadau a barn awduron o ran beth sy’n gyfradd tâl teg, yn llywio cyfraddau talu Llenyddiaeth Cymru yn y dyfodol. Yn ogystal bydd canllawiau yn cael eu creu a’u cyhoeddi ar wefan Llenyddiaeth Cymru, a’u rhannu’n eang gyda phartneriaid a’u rhannu ar draws y sector llenyddol.
 
Mae cyfranogiad yn y prosiect Ymchwil Ffioedd Awduron yn wirfoddol, a gallwch dynnu’n ôl o’r astudiaeth ar unrhyw adeg. Wrth rannu a chyhoeddi unrhyw ddata o’r ymchwil yma, bydd eich ymatebion yn aros yn ddienw, a fyddwch chi ddim yn cael eich adnabod mewn unrhyw ddeunyddiau allanol mewn perthynas â’r ymchwil yma. Byddwn ni’n sicrhau cyfrinachedd y data a’r wybodaeth rydych chi’n eu trafod gyda ni. Dylech nodi, drwy gymryd rhan yn yr arolwg yma, eich bod yn cytuno i gymryd rhan yn yr ymchwil.
 
Bydd yr ymchwil yn cynnwys yr holiadur yma a chyfweliadau dilynol gyda 30 awdur. Byddwn ni’n dewis awduron ar hap i gymryd rhan yn y cyfweliad o blith ymatebwyr yr arolwg yma, gan ddefnyddio cwotâu i sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu ystod eang o brofiadau (e.e. iaith). Ar ddiwedd yr holiadur, bydd gennych gyfle i gofrestru i gymryd rhan mewn cyfweliad dilynol.
 
Bydd eich ymatebion yn cael eu casglu a’u prosesu gan Llenyddiaeth Cymru, drwy Survey Monkey. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn echdynnu’r wybodaeth ac yn rhannu data dienw gyda Phrifysgol Aberystwyth at ddibenion dadansoddi a pharatoi er mwyn cynnal y cyfweliadau dilynol gyda 30 o wirfoddolwyr. Bydd unrhyw ymatebion yn cael eu troi’n ddienw drwy ddefnyddio ffugenw cyn eu rhannu, ac ni fydd manylion cyswllt yn cael eu rhannu. Os byddwch yn cael eich dewis ar gyfer cyfweliad, fe fydd Llenyddiaeth Cymru’n cysylltu â chi i drefnu hyn ar ran Prifysgol Aberystwyth. Yn ystod y cyfweliadau, a fydd yn digwydd drwy fideo neu alwad ffôn, does dim rhwymedigaeth i chi ddweud beth yw eich enw go iawn.
 
Bydd yr ymchwil yn arwain at greu adroddiad a chanllawiau ar ffioedd awduron a fydd yn cael eu rhannu’n gyhoeddus ac yn uniongyrchol â phartneriaid perthnasol. Mae’n bosib y bydd rhai sylwadau neu atebion penodol (o’r holiadur a chyfweliadau un i un) yn cael eu cynnwys, er hynny, bydd y rhain yn gwbl ddienw ac ni fyddant yn cael eu cysylltu ag enw, ffugenw, nac unrhyw wybodaeth arall y gellid eich adnabod drwyddi.
 
Bydd yr holiadur yn gofyn am y data categori arbennig canlynol: Data personol yn datgelu tarddiad hil neu ethnig. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn cynrychioli awduron o ystod o darddiadau ethnig.
 
Dim ond at ddibenion y prosiect ymchwil yma y bydd yr holl ddata’n cael ei gasglu. Y sail gyfreithlon ar gyfer hyn yw caniatâd penodol. Pan fydd y prosiect yn dod i ben, bydd y data dienw yn cael ei gadw’n barhaol, a bydd unrhyw ddata adnabyddadwy yn cael ei ddileu. 
 
Er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth am yr astudiaeth, sut bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio, am y canlyniadau, neu i dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, cysylltwch ag Owen Wyn Jones (Owen@llenyddiaethcymru.org)
I gael gwybodaeth am sut mae Llenyddiaeth Cymru’n casglu ac yn prosesu data, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd yma.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Prifysgol Aberystwyth yn casglu ac yn prosesu data, gallwch ddarllen eu Polisi Diogelu Data yma.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Survey Monkey yn casglu ac yn prosesu data, gallwch ddarllen eu Hysbysiad Preifatrwydd yma.

Question Title

* 1. Ydych chi’n rhoi caniatâd i’ch data gael ei ddefnyddio at y dibenion ymchwil a nodwyd uchod?

0 of 35 answered
 

T