Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Pobl a Gwaith, elusen a leolir yng Nghaerdydd, i werthuso'r strategaeth awtistiaeth newydd i Gymru.
Cewch ragor o wybodaeth ynghylch Pobl a Gwaith yn http://peopleandwork.org.uk/cy/home-cym/
Fel rhan o'r gwerthusiad, mae Pobl a Gwaith yn awyddus i ddysgu rhagor am brofiadau pobl o bob oedran ag awtistiaeth yng Nghymru a phrofiadau eu teuluoedd. Mae'r holiadur hwn wedi cael ei ddatblygu i alluogi pobl i rannu eu profiadau.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth mae pobl yn ei rhoi am eu profiadau i helpu i lunio adroddiad i Lywodraeth Cymru ar y gwahaniaeth mae'r strategaeth awtistiaeth newydd yn ei wneud i bobl fel chi yng Nghymru. Nid ydym yn gofyn am eich enw a bydd eich ymateb yn ddienw.
Er y byddem yn hoffi dod i wybod am eich profiadau, eich dewis chi yw hyn ac ni fydd yn achosi unrhyw broblemau i chi os byddwch yn dewis peidio â llenwi'r holiadur hwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i admin@peopleandwork.org.uk neu ffoniwch 02920 488 536