Newyddion gwych! Rydym yn paratoi i'ch croesawu yn ôl i'n canolfannau.
EICH AELODAETH: Byddwch yn falch o wybod ein bod wedi gostwng ein prisiau aelodaeth debyd uniongyrchol dros dro i adlewyrchu'r gwasanaethau y gallwn eu cynnig i chi pan fyddwn yn ailagor, a ddylai sicrhau mwy fyth o werth i'ch aelodaeth Actif. Bydd y prisiau is yn aros yn eu lle tan ddiwedd mis Medi. Bydd y prisiau hyn yn cael eu hadolygu bob mis gan ystyried y cyfleusterau a'r gwasanaethau y gallwn eu darparu i chi.
I'r rhai sydd am ailgychwyn eich aelodaeth, a allwn ofyn i chi lenwi'r ffurflen isod fel y gall ein tîm aelodaeth brosesu'ch cais a'ch er mwyn ailgychwyn eich aelodaeth. SYLWCH NA FYDD EICH AELODAETH YN AILGYCHWYN YN AWTOMATIG TRWY LENWI'R FFURFLEN YMA- BYDD AELOD O'T TIM YN RHOI GALWAD YN OL I CHI.