Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Pobl a Gwaith, elusen a leolir yng Nghaerdydd, i werthuso'r strategaeth awtistiaeth newydd i Gymru.
Cewch ragor o wybodaeth ynghylch Pobl a Gwaith yn http://peopleandwork.org.uk/cy/home-cym/
Fel rhan o'r gwerthusiad, mae Pobl a Gwaith yn awyddus i ddysgu rhagor am brofiadau oedolion ag awtistiaeth. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth mae pobl yn ei rhoi am eu profiadau i helpu i lunio adroddiad i Lywodraeth Cymru ar y gwahaniaeth mae'r strategaeth awtistiaeth newydd yn ei wneud. Dylai cymryd tua 10 munud i gwblhau ac nid ydym yn gofyn am eich enw a bydd eich ymateb yn ddienw.
Er y byddem yn hoffi dod i wybod am eich profiadau, eich dewis chi yw hyn ac ni fydd yn achosi unrhyw broblemau i chi os byddwch yn dewis peidio â llenwi'r holiadur hwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i admin@peopleandwork.org.uk neu ffoniwch 02920 488 536