Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd wedi comisiynu Richard Newton Consulting i gynorthwyo gyda datblygu Strategaeth Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol, sydd i’w chyd-gynhyrchu gyda chyfranogaeth gan amrediad eang y sector sy’n gweithredu yng Nghaerdydd. Bwriedir i’r Strategaeth gryfhau rôl y sector MGCCh wrth ddarparu datrysiadau i heriau’r Ddinas a chefnogi trafodaethau i’r dyfodol ynghylch sut a pham y dylai’r sector cyhoeddus weithio gydag a buddsoddi yn y sector.
Rydym am i’r strategaeth fod yn berchen i sector gwirfoddol Caerdydd, a sicrhau bod pob un o sefydliadau’r sector gwirfoddol (yn cynnwys grwpiau heb eu cofrestru, mentrau cymdeithasol, SBC, CBC, elusennau a grwpiau perthnasol eraill) yn cael cyfle llawn i gyfranogi.
Rydym ni’n anelu at gyhoeddi’r strategaeth ddrafft ym mis Ebrill 2022 a bydd y diweddaraf ar gael yma (bydd dolen i’r wefan ar ein tudalen)
Rydym yn gofyn i grwpiau sector gwirfoddol sydd wedi eu lleoli, neu sy’n gweithredu yng Nghaerdydd i gymryd ychydig funudau i rannu gyda ni eu profiadau o weithio yng Nghaerdydd, ac o weithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghaerdydd.
Ochr-yn-ochr â hyn, mae gennym raglen barhaus o Grwpiau Ffocws i gyfoethogi ein dealltwriaeth. Rydym hefyd yn croesawu gohebu uniongyrchol gyda’r tîm ymchwil er mwyn deall profiadau sefydliadau, anfonwch e-bost at research@richard-newton.co.uk
Byddwch yn cwblhau eich atebion i’r holiadur yn ddienw. Caiff yr holl ddata ei storio’n electronig ac yn ddiogel gan RNC a’i rannu gyda C3SC yn unig. Bydd unrhyw ddyfyniadau uniongyrchol a ddefnyddir yn ein hadroddiad ymchwil yn ddienw.