Cymerwch ran yn y drafodaeth ac yn rhannu eich barn ar werth eich Gwasanaeth Tân ac Achub.

Hoffem wybod a ydych yn credu bod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn darparu gwerth da am arian. Bydd eich adborth yn helpu i lunio dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub.

Rydym am wneud yn siŵr bod pawb yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Defnyddir yr arolwg hwn i roi gwybodaeth i ni am broffil y gymuned yr ydym yn ymgysylltu â hi, a hynny er mwyn ein cynorthwyo i deilwra ein gwasanaethau yn briodol.

Mae'r ffurflen yn ddienw ac yn gyfrinachol, felly ni fydd modd eich adnabod o unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi.

Os hoffech gael yr holiadur hwn mewn gwahanol iaith/fformat, ffoniwch 0800 169 1234.


Question Title

* 1. Credwn fod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn darparu amrywiaeth werthfawr o wasanaethau i ddiogelu eich cymuned. Pa dri o'r canlynol ydych chi'n meddwl ddylai fod yn flaenoriaethau i ni?

Question Title

* 2. Mae lefel bresennol y gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn costio dim ond £4 y mis i chi. Fodd bynnag, gyda thoriadau ar y gweill, pa un o'r opsiynau canlynol fyddai'n well gennych?

Question Title

* 3. Os oes rhaid i ni wneud arbedion yn unol ag Awdurdodau Lleol, ble ydych chi'n credu y dylid gwneud yr arbedion hyn?

T