Bob dwy flynedd, mae Bywydau Creadigol yn cynnal arolwg o’r sector celfyddydau gwirfoddol, sy’n helpu ein cynrychiolaeth i lywodraethau a chyllidwyr.
Mae’r byd wedi newid mewn sawl ffordd ers ein harolwg diwethaf yn 2020, a hoffem gael eich help i ddal naws ac anghenion presennol grwpiau creadigol gwirfoddol trwy ateb yr arolwg hwn am eich cyfranogiad eich hun mewn gweithgareddau creadigol.
Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill tocyn anrheg John Lewis gwerth £250.