Rhagarweiniad

Rhaid i’r arolwg hwn gael ei gwblhau gan y person sydd wedi cofrestru i fynychu’r digwyddiad.

Diolch am gofrestru i fynychu’r Gynhadledd ar gyfer Uwch Arweinwyr y Sector Cyhoeddus: Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn fusnes i bawb. Cwblhewch yr arolwg byr hwn cyn mynychu’r gynhadledd os gwelwch chi’n dda.

Mae Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Cyfrifol i flaenoriaethu diogelu, darparu cymorth ac atal trais yn erbyn menywod ym mhob peth a wnânt. Bydd y gynhadledd yn amlinellu cyfrifoldebau arwain o dan y Ddeddf, yn gosod yr achos o blaid creu dull gweithlu cyfan o adnabod ac ymateb yn gynnar, ac o ymgorffori atal trais yn erbyn menywod ym muses craidd pob sefydliad. Bydd arweinwyr ac uwch swyddogion yn rhannu enghreifftiau o sut y gellir creu newid diwylliant o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus, fel na fydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu goddef mwyach yng Nghymru.

Bydd y gynhadledd hon yn adeiladu ar waith Cyfres Cryfhau Arweinyddiaeth ac adnoddau ar gyfer Grŵp 6 y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol (mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol – Canllawiau i Weithwyr Proffesiynol).

#Busnesibawb

T