
Arolwg: Gweithwyr Creadigol yn ardal Casnewydd |
1. Cyflwyniad
14% |
Mae cynllun dysgu aml-undeb CULT Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Urban Circle Casnewydd (Tŷ Cynhyrchu aml-gyfrwng sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol) i ddatblygu a chyflwyno ystod o sesiynau dysgu ac ymgysylltu â'r diwydiant gyda phobl ifanc yn ardal Casnewydd.)
Rydym hefyd am trafod gyda pobl creadigol lleol (dros holl sectorau creadigol) i ddarganfod os oes diddordeb 'da chi mewn cwrdd â phobl creadigol lleol eraill gyda'r posibilrwydd o e.e. gyd-weithio, rhannu gwybodaeth, hyfforddi, ymgysylltu â'r gymuned, rhwydweithio anffurfiol ayyb.
Mae'r prosiect yn rhan o gyllid y Deyrnas Gyfunol a dderbyniwyd gan Ffilm Cymru/Troed yn y Drws i annog pobl i ymuno â'r sector ffilm a theledu. Disgwylir iddo fod ar gael o fis Ebrill i fis Medi 2022.
Rydym yn awyddus i ddod o hyd i weithwyr proffesiynol profiadol a medrus ym maes teledu a ffilm yn ardal Casnewydd sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am weithio gyda ni i gefnogi pobl ifanc o'r ardal leol i ddatblygu sgiliau newydd yn ymwneud â chynhyrchu teledu a ffilm. Mae Urban Circle Casnewydd eisoes yn cynllunio rhai cynyrchiadau ffilm a cherddoriaeth ar gyfer yr haf. Efallai y bydd rhai o'r bobl ifanc hyn am ddilyn gyrfa yn y diwydiant ac efallai y byddwch am gymryd rhan mewn rhyw fodd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am y cynllun neu am y rhwydwaith, cwblhewch yr arolwg canlynol cyn gynted a bo modd os gwelwch yn dda.
Croeso i chi rhannu yr holiadur gyda pobl creadigol eraill.