Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru Cylch Gorchwyl
Diben
Diben Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yw dwyn pobl ynghyd o’r sectorau cyhoeddus, preifat, y trydydd sector, y sector academaidd a’r sector polisi yng Nghymru i gydlynu a hyrwyddo gweithgarwch cynhwysiant digidol ledled Cymru o dan un faner genedlaethol. Bydd y grŵp yn ymrwymo i gymryd camau ar y cyd i newid yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru yn sylweddol, gan godi ei broffil yn uchel i bob sefydliad sy’n wynebu’r cyhoedd.
Bydd y Gynghrair yn dod ynghyd o fis Ionawr 2020 tan 30 Mehefin 2025, gyda phosibilrwydd o’i hymestyn.
Mae gan y Gynghrair un aelod staff dynodedig, a gyflogir gan Cwmpas, y mae ei rôl yn cynnwys bod yn Gydlynydd ar ran y Gynghrair.
Nid oes budd na gwobr ariannol ynghlwm wrth fod yn aelod o’r Gynghrair. Fodd bynnag, mae’n gyfle i gymryd rhan mewn cyflwyno mentrau arloesol sy’n ysbrydoli gweithredu a gwaith yn ymwneud â chynhwysiant digidol i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i ymwneud â gwasanaethau digidol a’r byd digidol.
Trosolwg
Mae’r Gynghrair yn cynnwys Rhwydwaith a Grŵp Llywio. Mae Rhwydwaith y Gynghrair ar agor i bob sefydliad sy’n gweithio ar gynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae gan aelodaeth y Rhwydwaith ofynion sy’n dangos ymrwymiad i’r agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru ac sydd wedi’u hamlinellu isod o dan ‘Cyfrifoldebau’.
Bydd y Rhwydwaith yn cefnogi gweithgareddau’r Gynghrair, gan ddarparu tystiolaeth o arfer orau ac enghreifftiau o’r hyn sy’n cael ei gyflawni ledled Cymru trwy weithgareddau cynhwysiant digidol. Bydd hyn yn helpu i greu’r mudiad a’r momentwm ar lawr gwlad y mae eu hangen i ddod â chynhwysiant digidol i ben blaen trafodaethau polisi a strategaeth. I’r gwrthwyneb, bydd yn rhoi’r cyfle i’r Grŵp Llywio gasglu barn Rhwydwaith y Gynghrair, a chysylltu â’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.
Bydd y Grŵp Llywio a’r Gynghrair yn gweithio ochr yn ochr, dan un faner, gan ddefnyddio’u cryfderau ei gilydd, i greu mudiad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn y pen draw ac ar y strategaeth lefel uwch.
Mae gweithgarwch y Gynghrair yn canolbwyntio ar gynyddu cynhwysiant digidol yng Nghymru a chodi proffil cynhwysiant digidol yng Nghymru trwy weithio tuag at y 5 maes blaenoriaeth sydd wedi’u hamlinellu yn nogfen Agenda’r Gynghrair: O Gynhwysiant i Wydnwch. Dyma’r pum maes:
Blaenoriaeth 1: Ymgorffori cynhwysiant digidol ar draws pob sector
Blaenoriaeth 2: Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Blaenoriaeth 3: Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
Blaenoriaeth 4: Blaenoriaethu sgiliau digidol yn yr economi ar ôl Covid
Blaenoriaeth 5: Gosod safon byw digidol gofynnol newydd a mabwysiadu dulliau cyd-gynhyrchu