Y llynedd, lansiodd WCVA ei Gynllun ar gyfer Newid, sy’n amlinellu’r hyn y gobeithiwn ei gyflawni ochr yn ochr â’r trydydd sector yng Nghymru. Nawr mae angen eich cymorth chi arnom i ddarganfod pa effaith y mae ein gwasanaethau yn ei chael ar y sector ac i weld ein cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion a nodir yn y Cynllun. Mae’r rhain yn cynnwys

·         Y trydydd sector yng Nghymru yn gryfach ac yn fwy cadarn

·         Y trydydd sector a gwirfoddoli yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy a phobl yn rhoi mwy o ffydd ynddynt

·         Y trydydd sector a gwirfoddoli yn cael mwy o effaith ar lesiant yn awr ac yn y dyfodol

Gofynnwn i chi felly ateb yr arolwg hwn – bydd yn cymryd tua deg i bymtheg munud. Bydd yn ein galluogi i ganfod pethau i’w gwella ac i gryfhau ein gwaith gyda’r sector ac ar gyfer y sector yn y blynyddoedd i ddod. Bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn cyfrannu at ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2019/20 ac yn cael eu hamlygu ar wefan WCVA. Bydd yr holl ddata a gyhoeddir o ganlyniad i’r arolwg hwn yn ddienw.

Bydd gan y rheini sy’n gadael eu manylion cyswllt ar ddiwedd yr arolwg siawns o ennill £100 i’w mudiad. Bydd enw’r enillydd yn cael ei dynnu allan o’r het ar ôl dyddiad cau’r arolwg sef 31 Mawrth 2019. Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd yma.

Nid oes angen i chi fod yn aelod o WCVA i ateb yr arolwg hwn. Sylwch pan fyddwn yn cyfeirio at ‘fudiadau’ drwy gydol yr arolwg, rydym hefyd yn golygu grwpiau gwirfoddol a chymunedol.

Diolch am eich cymorth.

T