Holiadur Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig CGGC |
Cais i ymuno â grŵp trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC
Bydd CGGC yn casglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth i gynorthwyo gydag integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rhwng bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a'r trydydd sector / gwirfoddol. Rydym yn recriwtio unigolion sy'n byw yn Sir Conwy sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio yn y trydydd sector. Bydd y grŵp cychwynnol yn rhan o grŵp cyd-gynhyrchu i helpu i ddylunio'r cwestiynau a'r dulliau a ddefnyddir.