Arolwg Rhanbarth Gwella Busnes Y Rhyl a Phrestatyn |
1. Cyflwyniad
1 / 14 | 7% |
Rhanbarth Gwella Busnes Y Rhyl a Phrestatyn
Rhowch eich barn ar sut y gallai Rhanbarth Gwella Busnes helpu eich busnes.
Mae’r Mosaic Partnership wedi'i gomisiynu i asesu hyfywedd Rhanbarth Gwella Busnes yn y Rhyl a Phrestatyn (naill ai fel Rhanbarthau Gwella Busnes canol tref ar wahân, neu wedi'u cyfuno). Mae’r Mosaic Partnership wedi datblygu dros 100 o Ranbarthau Gwella Busnes yn y DU a thramor ac yn un o'r ymgynghoriaethau arweiniol yn y DU yn y maes hwn
Mae Rhanbarthau Gwella Busnes yn ffordd gyffrous a chynaliadwy i reoli llefydd ac yn cael eu defnyddio'n fwy fwy gan gyrchfannau i sicrhau eu bod yn gystadleuol, o ran marchnata a rheoli eu cynnig. Yn ddiweddar mae Cymru wedi gweld nifer o Ranbarthau Gwella Busnes yn cael eu datblygu yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Casnewydd ac Aberystwyth, lle mae busnesau'n dod ynghyd ac yn ariannu gweithgareddau fel marchnata a hyrwyddo, hyrwyddiadau cludiant a chefnogaeth i fusnesau.
Fel busnes yn yr ardal, hoffem glywed eich safbwyntiau ar y meysydd gwaith sydd o ddiddordeb i chi. Bydd yr holl wybodaeth a ddaw i law yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol.
Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen hon ar-lein. Gludwch y ddolen gyswllt hon i’ch porwr:
https://www.surveymonkey.co.uk/r/Rhyl-PrestaynBIDSurveyE (Fersiwn Saesneg)
https://www.surveymonkey.co.uk/r/Rhyl-PrestatynBIDSurveyW (Fersiwn Gymraeg)
Dyddiad Cau ar gyfer yr Arolwg: 20 Gorffennaf 2017
Dewch i’n Gweithdai Busnes
Yn dilyn yr arolwg hwn byddwn yn cynnal 2 weithdy busnes, un yn y Rhyl a’r llall ym Mhrestatyn. Bydd hyn yn gyfle i chi dderbyn mwy o wybodaeth am y broses, manylu ar ganlyniadau'r arolwg ar y pryd a gofyn cwestiynau manylach a phenodol. Rydym yn eich annog i fynychu. Cynhelir y gweithdai ar y dyddiau a’r amseroedd canlynol:
Gweithdy Busnes Y Rhyl
Dydd Iau 22 Mehefin am 5.00pm: Neuadd y Dref y Rhyl, Ystafell Gyfarfod Llawr Gwaelod
Gweithdy Busnes Prestatyn
Dydd Gwener 23 Mehefin am 5.00pm: Sinema SCALA, Stryd Fawr Prestatyn, Ystafell Gyfryngau
Nodwch ar ddiwedd yr arolwg hwn os ydych yn dymuno mynychu gweithdy a pha un.
Copyright 2017. Mosaic Futures Ltd