Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf (2019-2020). Hoffem ymgynghori ag aelodau o'r cyhoedd, yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, i weld a ydych yn cytuno â'r saith blaenoriaeth y credwn eu bod yn bwysig i bobl De Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn cymryd ychydig o funudau yn unig a gwerthfawrogwn eich adborth yn fawr.