Check SCREEN READER MODE to make this survey compatible with screen readers.
CYFARWYDDIAETH CLWB 2021-2022
SEFYDLIADAU CHWARAEON A GWEITHGAREDDAU YM MRO MORGANNWG
Os ydych yn rhedeg clwb / sefydliad chwaraeon neu weithgaredd corfforol ym Mro Morgannwg yna byddai tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wrth eu bodd yn clywed gennych fel y gallwn ychwanegu eich manylion at ein cronfa ddata. Gallwn helpu i ledaenu'r gair am eich clwb / sefydliad a denu aelodau newydd trwy gynnwys eich clwb / sefydliad ar ein gwefan yn www.valeofglamorgan.gov.uk, ei hyrwyddo trwy'r cyfryngau cymdeithasol a hefyd trwy ddulliau eraill megis trwy ein cysylltiadau ag ysgolion a sefydliadau eraill.
Os penderfynwch ymuno â'n rhestr dosbarthu e-bost gallwn hefyd eich hysbysu am gyfleoedd cyllido, cyrsiau hyfforddi sydd ar ddod a phethau perthnasol eraill a allai fod o ddiddordeb i'ch clwb. Ni fyddwn yn eich llethu gydag e-byst a byddwn ond yn anfon y rhai yr ydym yn teimlo a fydd o ddiddordeb i'ch sefydliad.
Er mwyn elwa o'r uchod, rhowch fanylion am eich sefydliad a'r hyn rydych chi'n ei gynnig. Yna mae angen i chi roi gwybod i ni hefyd sut rydych chi am i ni eich helpu chi trwy roi caniatâd yn erbyn y meysydd perthnasol. Gan ein bod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg, byddwn yn sicrhau bod egwyddorion diogelu data GDPR yn cael eu dilyn a bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion rydych chi'n rhoi caniatâd i ni yn unig ar eu cyfer. Os bydd unrhyw un o'r manylion hyn yn newid neu os hoffech chi ddiweddaru / dileu dewisiadau, cysylltwch â ni yn KJDavies@valeofglamorgan.gov.uk.