Beth sydd o bwys i chi? |
Mae pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent , mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn cynnal digwyddiad Hawl i Holi ar-lein ddydd Iau, 10 Mawrth o 4.30pm tan 6.30pm.
Mae’r digwyddiad yn gyfle i chi leisio eich barn, a gofyn cwestiynau i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau am eich cymunedau am y pethau sydd o bwys i chi.
Hoffem ddeall beth sydd o bwys i chi er mwyn i ni gael panel o weithwyr proffesiynol at ei gilydd i ateb eich cwestiynau a chlywed eich llais.
Atebwch ychydig o gwestiynau isod.