Parth Rheoli Galwyr Digroeso 2017 |
Annwyl Breswylydd,
Sawl blynedd yn ôl, sefydlodd cydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru ac aelodau o’r gymuned nifer o Barthau Rheoli Galwadau Digroeso yn Sir Ddinbych. Cefnogwyd y parthau gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych.
Fe’u dyluniwyd i warchod preswylwyr diamddiffyn ac i helpu busnesau osgoi ardaloedd lle na chaniateir galwadau digroeso. Mae angen i ni ddeall os yw’r parthau presennol dal o fudd i’r preswylwyr lleol ac i ystyried a oes angen i ni wneud unrhyw newidiadau ai peidio. Er mwyn gwneud hyn rydym y gofyn am eich cymorth i’w gwerthuso. Bydd y cyfnod gwerthuso yn para o ddydd Llun 30 Ionawr i ddydd Gwener 17 Chwefror 2017.
Os hoffech ymateb, cliciwch ar y ddolen ynghlwm a fydd yn mynd â chi at holiadur survey monkey. Rydym hefyd yn gallu darparu fersiwn wedi’i argraffu o’r holiadur. Os hoffech lenwi holiadur wedi’i argraffu, cysylltwch â safonaumasnach@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706057 cyn dydd Gwener 10 Chwefror 2017.
Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a gawn ac yn cyhoeddi’r canlyniadau a’n cynlluniau ar gyfer dyfodol Parthau Rheoli Galwadau Digroeso yn Sir Ddinbych cyn diwedd mis Ebrill 2017.
Diolch am eich diddordeb. Edrychaf ymlaen at glywed eich safbwyntiau.
Ian Millington
Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd