Screen Reader Mode Icon
Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn gosod y canllawiau ar gyfer ffioedd rhent y dylai holl landlordiaid tai cymdeithasol eu dilyn i sicrhau bod rhenti yn deg i bob tenant. Rydym yn ysgrifennu atoch ynglŷn â’ch rhent blynyddol ar gyfer y flwyddyn ganlynol bob mis Chwefror cyn iddo ddechrau yn Ebrill. Byddwn yn gwneud yr un fath eto yn Chwefror 2021.

Model rhent byw

Ond eleni rydym hefyd wedi cynnal adolygiad o’n cartrefi gan ddefnyddio model a luniwyd gan y Joseph Rountree Foundation o’r enw ‘The Living Rents Model’. Mae’r dull hwn yn rhoi darlun tecach i ni os yw ein rhenti yn fforddiadwy gan ei fod yn edrych ar faint yr eiddo ynghyd ag incwm yr aelwydydd sy’n ennill y lleiaf yn lleol.

Bu i ni ganfod fod angen i ni wneud ychydig o newidiadau i wneud ein rhenti yn fwy fforddiadwy a thecach yn dibynnu ar faint y cartref a ble rydych yn byw. Byddai hyn yn golygu newidiadau i’r rhent blynyddol - bydd rhai rhenti yn llai, a rhai yn uwch ond bydd eraill yn aros yr un fath. I helpu tenantiaid sy'n byw mewn cartrefi sydd â rhent uwch byddwn yn gwneud y newid hwn yn araf ac yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod rhenti.

Sut rydym yn cyfrifo eich rhent

Newid arall yw cyfrifo ein rhent dros 52 wythnos y flwyddyn yn hytrach na 48 wythnos. Byddai hyn yn golygu rhent is ond ddim wythnosau di-rent yn Rhagfyr neu Fawrth. Mae nifer o denantiaid yn aml yn gofyn cwestiynau ynghylch yr wythnosau di-rent ac yn dweud wrthym ei fod yn ddryslyd ac yn anodd deall sut mae’n gweithio gyda'r dull talu a ddefnyddiant a systemau eraill y tu hwnt i Cartrefi Conwy.

Dweud eich dweud


Cyn i ni wneud unrhyw newidiadau, rydym eisiau siarad gyda chi a chael eich barn. Mae eich barn am unrhyw newidiadau a wnawn yn bwysig iawn i ni a gall wneud gwahaniaeth i'r ffordd y gwnawn bethau. Dyna pan ein bod yn gofyn i denantiaid ateb pedwar cwestiwn yn yr arolwg yn y ddolen hon erbyn y 30fed Hydref.  Hefyd, bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg erbyn y dyddiad hyn yn cael cyfle i ennill £50 o dalebau love2shop.

Fel arfer pan rydym angen gwneud newid pwysig fel hyn, rydym hefyd yn eich gwahodd i ddod i gyfarfod i drafod a gofyn cwestiynau. Ni allwn wneud hynny wyneb yn wyneb yn awr ond gallwn wneud hyn ar-lein. Felly, rydym yn cynnal digwyddiad ar Zoom ar 23 Hydref. Mae Zoom yn Ap sy’n gadael i chi siarad a gweld pobl eraill mewn ystafell ar-lein. Mae’n hawdd ei ddefnyddio a’i lawrlwytho i’r rhan fwyaf o bobl, ond gallwn hefyd helpu unrhyw un i wneud hyn ac ymuno. Felly cofiwch gysylltu â ni ac fe wnawn drafod hyn gyda chi.

 


 
0 of 6 answered
 

T