Mae Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig wedi comisiynu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i roi cipolwg ar leihau gwastraff o fewn cadwyni cyflenwi garddwriaethol. Nod y prosiect yw dod â grwpiau o fusnesau at ei gilydd i ganolbwyntio ar leihau gwastraff a chael y gorau o'r adenillion economaidd.

Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni a byddem yn gwerthfawrogi'n fawr petaech yn cyfrannu i’r holiadur canlynol. Dyma'ch cyfle chi i roi mewnbwn i a llunio sut y caiff ei ddatblygu i gefnogi eich busnes a'r sector ehangach. Bydd yr holl ymatebion a dderbynnir yn cael eu trin yn gyfrinachol ac ni chaiff eu datgelu yn unigol. Byddwn ond yn cysylltu â chi os byddwch yn rhoi eich manylion a'ch caniatâd ar ddiwedd yr arolwg hwn.

Os hoffech drafod ymhellach, cysylltwch â ni trwy e-bost yn:  horticulturewales@glyndwr.ac.uk 

Question Title

* 1. Pa sector sy'n disgrifio'ch busnes garddwriaeth orau?

Question Title

* 2. Faint o bobl ydych chi'n eu cyflogi, yn llawn-amser neu'n rhan-amser?

Question Title

* 3. Ers pryd y mae eich busnes yn rhedeg?

Question Title

* 4. Pa rai o'r canlynol yn eich barn chi fyddai'n helpu eich busnes i leihau gwastraff? (Ticiwch fel y bo'n briodol)

Question Title

* 5. Pa rai o'r canlynol fyddai'n cael effaith gadarnhaol o ran gwella cyfnod silff eich cynnyrch? (Ticiwch y tri mwyaf)

Question Title

* 6. Beth ydych chi'n ei wneud eisoes i leihau gwastraff? (Ticiwch fel y bo'n briodol)

Question Title

* 7. Pa rai o'r canlynol fyddai o ddiddordeb i'ch busnes? (Ticiwch fel y bo'n briodol)

Question Title

* 8. A fyddech chi'n gallu cyfrannu at unrhyw un/rai o'r canlynol?

Question Title

* 9. 1.       Os ydych wedi ticio unrhyw un o'r opsiynau uchod, rhowch eich manylion cyswllt fel y gallwn gysylltu â chi i drafod.
* Sylwer: Drwy ddarparu'ch manylion personol, rydych chi'n cydsynio i'r Brifysgol a'i gwmnïau integredig ddal eich data personol at y dibenion a nodir. Cynhelir y data yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data (1998) a Pholisi Preifatrwydd y Brifysgol. Gallwch dynnu'n ôl neu newid eich caniatâd ar unrhyw adeg trwy gysylltu â'r Swyddog Cyfathrebu ar 01978 293401 neu yn horticulturewales@glyndwr.ac.uk neu drwy ysgrifennu at y Brifysgol ym Mhrifysgol Glyndŵr Ffordd yr Wyddgrug Wrecsam LL11 2AW. Noder y bydd holl brosesu’ch data personol yn dod i ben unwaith y byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl, heblaw lle mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, ond ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw ddata personol sydd eisoes wedi'i brosesu cyn y pwynt hwn.

Question Title

* 10. Hoffem fod yn gallu cadw mewn cysylltiad â chi o bryd i'w gilydd trwy lythyr, e-bost neu ffôn i roi gwybod ichi am ein gwaith, newyddion, gwasanaethau a digwyddiadau sydd i ddod. Dywedwch wrthym sut yr hoffech i ni gadw mewn cysylltiad â chi:

T