Screen Reader Mode Icon
Mae CGGC yn awyddus i ddeall pa wybodaeth sydd gan y sector gwirfoddol am waith Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Dangosyddion a Cherrig Milltir Cenedlaethol a fydd yn mesur cynnydd Cymru fel cenedl, a sut mae’r sector yn cymryd rhan yn y gwaith hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ‘y gall gosod cerrig milltir cenedlaethol yn erbyn y dangosyddion hyn helpu i ysgogi cydweithredu, yn ogystal â’n helpu i ddeall cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant’.

Gweler dudalen yr ymgynghoriad am ragor o wybodaeth am y gwaith hwn.

Isod ceir arolwg byr i geisio ein helpu ni i greu darlun o gysylltiad y sector. Dylai gymryd oddeutu 10 munud i’w gwblhau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â David Cook, Swyddog Polisi CGGC.

Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Gwener 15 Hydref 2021.

Question Title

* 1. Pa mor ymwybodol ydych chi o’r rhaglen Cerrig Milltir/Dangosyddion Cenedlaethol? (1 – ddim o gwbl, 5 – ymwybodol iawn)

Question Title

* 2. A yw’n bwysig i’r sector gymryd rhan yn y gwaith hwn?

Question Title

* 3. Ar hyn o bryd, mae ‘Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli’ yn ddangosydd sy’n bwydo i mewn i nifer o’r dangosyddion. Bydd y dangosyddion hyn, yn eu tro, yn hysbysu nifer o gerrig milltir: ‘miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’, ‘Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050’, ‘Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050’, ‘Lleihau canran y plant â llai na dau ymddygiad iach i 6% erbyn 2035 a llai nag 1% erbyn 2050’, a ‘Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r byd y bydd Cymru’n ei defnyddio erbyn 2050’.

Sut ydych chi’n credu gall y sector gwirfoddol gyfrannu at y cerrig milltir hyn?

Question Title

* 4. A ydych chi’n teimlo y dylai ‘y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli’ fod yn garreg filltir yn ei hun?

Question Title

* 5. Os yw eich mudiad yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, sut byddech chi’n teimlo pe bai gofyniad yn cael ei gyflwyno yn gofyn i chi adrodd ar sut mae’r cyllid hwn wedi cyfrannu at y Dangosyddion Cenedlaethol? (Noder: Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi hwn fel polisi arfaethedig.) 

Question Title

* 6. Mae’r cwestiynau canlynol yn opsiynol. Atebwch y rhain dim ond os ydych chi’n fodlon i CGGC gysylltu â chi o bosibl am ragor o fanylion ar eich ymatebion.

Enw

Question Title

* 7. Mudiad (os yw’n berthnasol)

Question Title

* 8. Cyfeiriad e-bost

Diolch am gymryd yr amser i gwblhau’r arolwg hwn.
0 of 8 answered
 

T