Screen Reader Mode Icon

Mapio anghenion y sector mentrau cymdeithasol ym Merthyr Tudful

Mae Tydfil Training, Gweithredu Gwirfoddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi bod yn llwyddiannus yn ddiweddar wrth wneud cais am Gyllid Adfywio Cymunedol i gefnogi mentrau cymdeithasol lleol ac wedi hynny maent wedi comisiynu Cwmpas i gynnal nifer o dasgau ategol (gan gynnwys mapio’r holl fentrau cymdeithasol yn yr ardal a chanfod eu hanghenion). P'un a ydych yn fenter gymdeithasol brofiadol, yn gymharol newydd, neu hyd yn oed yn ystyried y syniad o ddechrau un, a fyddech cystal â rhoi ychydig funudau yn unig i gwblhau'r arolwg hwn fel y gallwn ddylanwadu ar gymorth mwy pwrpasol. Er mwyn i ni allu prosesu’r canlyniadau a chreu ymateb rhwng y bartneriaeth, a fyddech cystal â darllen y polisi preifatrwydd isod yn ofalus cyn cytuno ag ef.
 
Datganiad Preifatrwydd
Byddwn yn gofyn am enw a lleoliad eich sefydliad er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer yr arolwg hwn. Byddwn hefyd yn gofyn am eich enw a'ch cyfeiriad e-bost (er yn ddewisol), at ddibenion dangos tystiolaeth o'n cefnogaeth i'n rhoddwyr ac i ymateb i unrhyw geisiadau a wnewch am ddiweddariadau ar ddiwedd yr arolwg. Ni fyddwn yn rhannu’r manylion cyswllt hyn ag unrhyw un y tu allan i’r partneriaid darparu craidd, sef Cwmpas, Tydfil Training, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu â ni yn cael ei chadw’n ddiogel yn unol â pholisi GDPR Cwmpas. Mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd i ni ddefnyddio’ch data yn ôl ar unrhyw adeg a gofyn i ni ddileu eich data.
I arfer yr holl hawliau, ymholiadau neu gwynion perthnasol, cysylltwch yn y lle cyntaf â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cwmpas ar 0300 111 5050 neu e-bostiwch info@wales.coop neu yn Y Borth, 13 Ffordd Beddau, Caerffili, CF83 2AX.

Question Title

* 1. Ydych chi'n cytuno â'r datganiad preifatrwydd hwn?

0 of 16 answered
 

T