Check SCREEN READER MODE to make this survey compatible with screen readers.
Fyddai eich busnes yn elwa o logi man awyr agored?
Mae Cyngor Caerdydd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio ei fannau digwyddiadau awyr agored ar gyfer gweithgarwch amgen.
Rydym am brofi'r farchnad trwy ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan fusnesau/sefydliadau sy'n dymuno ystyried y cyfle hwn. Mae'r cyfle'n agored i unrhyw weithgarwch a ganiateir gan y newidiadau cyfredol, neu'r rhai a gyhoeddwyd ymlaen llaw, i reoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru, a gellir eu haddasu i amgylchedd awyr agored.
Y bwriad yw gwneud defnydd o barciau a mannau agored, a ddefnyddir fel arfer ar gyfer digwyddiadau awyr agored, i gefnogi busnesau/sefydliadau a all fod yn profi cyfyngiadau o fewn eu lleoliad/lleoliadau dan do arferol oherwydd COVID-19.
Gallai hyn fod o ddiddordeb arbennig i'r sectorau iechyd a ffitrwydd a'r celfyddydau perfformio ond croesewir pob datganiad o ddiddordeb.
Cofrestrwch eich diddordeb nawr gyda'r arolwg byr iawn hwn.