• Cymraeg
  • English
Mae gan y PSRh ddiddordeb yn yr hyn sydd gennych i'w ddweud am yr heriau yr ydych yn eu hwynebu fel busnes ac, yn benodol, ynghylch recriwtio sgiliau nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar y dirwedd sgiliau ar gyfer Canolbarth Cymru – drwy ateb yr ychydig gwestiynau hyn gallwn gasglu data a fydd yn llywio ac yn dylanwadu ar newid yn y mannau cywir. Helpwch ni i roi gwybod i Lywodraeth Cymru pa ddarpariaeth sgiliau sydd ei hangen arnom er mwyn i’r economi a phobl ar draws Canolbarth Cymru ffynnu. Cafodd yr arolwg hwn ei gomisiynu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar ran Tyfu Canolbarth Cymru sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion (CSC) a Chyngor Sir Powys (CSP). Caiff y data ei gadw gan CSP a dim ond staff awdurdodedig oddi fewn i CSC a CSP fydd yn cael mynediad at y wybodaeth a gipiwyd. Os gaiff data personol ei ddarparu, yna ni fydd yn ffurfio rhan o unrhyw adroddiad dadansoddi nac yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd. Caiff eich sylwadau eu cyfuno â’r rheini a gasglwyd oddi wrth gyfranogwyr arolygon eraill a chael eu dadansoddi fel rhan o grŵp. Caiff data’r arolwg ei ddefnyddio i helpu Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru i flaenoriaethu’r ffordd orau o roi cymorth i fusnesau yng Nghanolbarth Cymru. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Mae hawl gennych ofyn fod y cofnod o’ch ymwneud â’r arolwg yn cael ei ddileu neu ei ddinistrio’n rhannol neu’n gyfan gwbl.Caiff gwybodaeth bersonol ei chymryd i ffwrdd o’r ymatebion ymhen 1 flwyddyn.Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os fyddech chi’n hoffi optio allan o gyfathrebiadau’r dyfodol, e-bostiwch midwalesrsp@powys.gov.ukOs hoffech chi i ni gadw a chysylltu â chi ar gyfeiriad e-bost arall yn y dyfodol, rhowch wybod beth ydyw o dan adran wybodaeth gyswllt yr arolwg.

T