Detholwch MODD DARLLENYDD SGRIN i wneud yr arolwg hwn yn gydnaws â darllenyddion sgrin.
Adolygiad Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol ar gyfer Prydain Fawr
Holiadur INNS
Diben yr holiadur hwn yw clywed barn rhanddeiliaid ar weithredu Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) Prydain ers (dolen) a rhoi rhyw awgrym o gyfeiriad ar gyfer y fersiwn nesaf.
Nod y Strategaeth yw rhoi sylw i faterion yn ymwneud ag INNS ym Mhrydain drwy leihau’r perygl sy’n dod yn eu sgil a lleihau eu heffeithiau negyddol ym Mhrydain. Mae’r Strategaeth yn dilyn dull hierarchaidd y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) sy’n rhoi pwyslais ar atal, a ddilynir gan ganfod cynnar ac ymateb cyflym ac yn olaf rheoli tymor hir. Mae Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol (NNSS) Prydain yn gyfrifol am gydlynu’r dull o fynd i’r afael ag INNS ym Mhrydain a thrwy hynny am weithredu’r Strategaeth.
Bwriadwyd i’r Strategaeth gael ei hadolygu bob pum mlynedd i asesu pa mor effeithiol fu ei gweithredu yn ogystal â sut y dylid ei haddasu wrth edrych i’r dyfodol. Mae’r holiadur hwn yn rhan o’r broses adolygu ac mae’n ymdrech i gasglu ymateb ystod eang o randdeiliaid. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ystyried cynifer o’r cwestiynau â phosibl a rhoi atebion sy’n cynrychioli orau eich sefydliad neu chi os ydych yn mynegi eich safbwyntiau personol. Fodd bynnag, os nad ydych yn gyfarwydd â’r deunydd sy’n cael ei drafod mewn unrhyw gwestiwn penodol, defnyddiwch yr opsiwn ‘Ddim yn gwybod’. Bydd yr holl ddata a gesglir fel rhan o’r holiadur hwn ar ffurf ddienw ac ni fydd yn cael ei rannu ag unrhyw drydydd parti (gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd isod). Bydd data dienw yn cael ei gyhoeddi mewn dogfen adolygu a fydd ar gael i’r cyhoedd ar Wefan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain yn dilyn yr adolygiad. Dylai’r holiadur gymryd tua 25 munud i’w gwblhau. Diolch i chi ymlaen llaw am eich amser a’ch cyfraniad gwerthfawr.