1. Ynglŷn â'r arolwg

A ydych wedi ymweld ag amgueddfa neu safle treftadaeth yn y DU yn ystod y 12 mis diwethaf ac wedi defnyddio cyfleusterau neu gymorth mynediad*? Os felly, llenwch ein harolwg a rhowch wybod i ni am eich profiadau.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan bobl sy'n gyfeillion, yn gynorthwywr personol neu'n ofalwyr sy'n hebrwng plant neu oedolion sy'n defnyddio'r cyfleusterau neu'r cymorth mynediad.

Fersiwn Print Bras (Microsoft Word)
*Mae cyfleusterau a chymorth mynediad yn cynnwys, er enghraifft: parcio hygyrch/Bathodyn Glas, toiledau hygyrch neu Changing Places, fformatau gwahanol (braille, penawdau, print bras, trawsgrifiadau), disgrifiadau clywedol, dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, is-deitlau digidol neu fyw, dolen glyw, map synhwyraidd/stori weledol, mynediad heb risiau.

Mae VocalEyes, Stagetext ac Autism in Museums yn sefydliadau mynediad sy'n gweithio yn y sector celfyddydau a threftadaeth. Rydym wedi uno i ymchwilio i brofiadau ymwelwyr er mwyn i ni allu rhoi gwybod i filoedd o leoliadau ledled y DU  i ba raddau maent yn bodloni neu'n methu â bodloni gofynion mynediad eu hymwelwyr.

The survey has 24 questions and should take about 20 minutes to complete.

Question Title

* 1. Cadarnhaf fy mod dros 16 oed a'm bod yn byw yn y DU.

Deallaf y bydd yr atebion y byddaf yn eu rhoi'n cael eu defnyddio i'w dadansoddi a'u cyhoeddi.

Deallaf y bydd fy atebion yn cael eu cofnodi a'u cyhoeddi mewn ffordd sy'n golygu na allaf gael fy adnabod.

Os oes gennyf unrhyw broblemau neu bryderon am yr arolwg, deallaf y gallaf gysylltu â Matthew Cock, matthew@vocaleyes.co.uk

Os ydw i'n dewis nodi cyfeiriad e-bost, deallaf y bydd yn cael ei dynnu o'r arolwg ac ond yn cael ei ddefnyddio er mwyn anfon canlyniadau'r arolwg ataf.

Question Title

* 2. Cydsynio 2

 
6% of survey complete.

T