Ardal Practis Preseli: Gwasanaethau gofal a lles yn ein hardal leol
Helo, hoffem i chi rannu eich syniadau am wasanaethau gofal a lles yn ardal Practis Preseli
Mae angen cymorth i ofalu amdanom ni’n hunain ar lawer ohonom ni – a’n teulu a’n ffrindiau hefyd – neu fe fydd angen hynny yn y dyfodol – neu mae angen cymorth gyda lles. Ystyr lles yw gwneud pethau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda ac yn hapus.
Gwyddom fod gofalwyr sy’n derbyn tâl yn ymweld â phobl yn eu cartrefi i’w helpu, ond roeddem ni am wybod tybed a allai gofalwyr neu gymdogion, neu bobl eraill yn ein cymuned, helpu mewn ffordd wahanol… ymweld â ffrindiau, mynd am dro, siopa neu gymryd rhan mewn gweithgareddau?
Cynlluniwyd yr arolwg byr hwn i roi gwybod i ni beth yw eich syniadau chi am ofal a lles, ac a ydych chi’n credu y byddai cael eich cymuned i ddechrau sefydliad lleol i wneud hyn yn syniad da? A allai roi mwy o lais a rheolaeth i chi dros wasanaethau? Byddai angen i ni weithio’n galed er mwyn cydweithio â’n gilydd i gyflawni hyn.
I’n helpu ni, hoffem wybod mwy am ein cymuned yn gyntaf.