Screen Reader Mode Icon
Please access the English Language version of this survey here.
 
Ynghylch Sgiliau Creadigol a Diwylliannol
 
Gwaith Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yw creu sector diwylliannol teg a medrus drwy fireinio sgiliau ac arfer orau mewn addysg a chyflogaeth. Rydym yn ysgogi gweithredoedd ac yn agor cyfleoedd dysgu sy'n hybu newid ac yn helpu i greu sector medrus a chynhwysol. Rydym yn gweithio i ehangu llwybrau mynediad i'r sector diwylliannol ar gyfer y gronfa dalent ehangaf bosibl, waeth beth fo'u cefndir, amgylchiadau personol neu gyflawniad addysgol blaenorol. Rydym eisiau helpu'r sector i werthfawrogi gwahaniaeth yn ei holl ffurfiau a chynnal ei gwrs o dwf economaidd, sydd, yn ein barn ni, yn fwy posibl os ydym yn arfogi'r genhedlaeth nesaf â'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i wneud dewisiadau gyrfa clir.
 
I ddysgu mwy am waith Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ewch i:
www.ccskills.org.uk Twitter @CCSkills Facebook Linkedin

Ynghylch yr arolwg hwn

Yn wyneb y pandemig Covid-19, mae'r sector ddiwylliannol yn profi amseroedd heriol, sy'n debygol o barhau. Gyda chyflwyniad mecanweithiau cymorth cyflogaeth ar gyfer ieuenctid ledled y DU, rydym eisiau deall diwylliant recriwtio’r sector yn well er mwyn ei helpu i adfer ac ail-adeiladu, yn well.   Felly mae'r arolwg hwn yn ceisio casglu data ar y llwybrau mynediad ar gyfer recriwtiaid newydd a gefnogir ar hyn o bryd gan sefydliadau yn y sector diwylliannol a datblygiad y biblinell dalent trwy opsiynau fel prentisiaethau, interniaethau a phrofiad gwaith. 

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol a phartneriaid perthnasol i lywio rhaglenni cefnogaeth i'r sector, a bydd canfyddiadau perthnasol sydd wedi'u casglu yn cael eu cyhoeddi.

Cwblhau'r arolwg hwn

O fewn paramedrau'r arolwg hwn, mae'r "sector diwylliannol" yn golygu: Crefft (cyfoes a threftadaeth), Addysg Ddiwylliannol, Treftadaeth Ddiwylliannol, Amgueddfeydd, Orielau a Llyfrgelloedd, Cerddoriaeth, Celfyddydau Perfformio (gan gynnwys Theatr, Dawns, y Gair Llafar a Chelfyddydau Awyr Agored) a'r Celfyddydau Gweledol. Rydym yn croesawu ymatebion gan yr holl sefydliadau sy'n gweithio mewn un neu fwy o'r is-sectorau hyn. 

Dylai'r arolwg gymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol. Defnyddir unrhyw ddata a ddarperir gennych ddim ond at ddibenion helpu Sgiliau Creadigol a Diwylliannol i ddeall y materion allweddol y mae'r sector yn eu hwynebu ynghylch llwybrau mynediad a recriwtio lefel mynediad.

Bydd data ac ymatebion yn cael eu hadrodd gyda'i gilydd, sy'n golygu y bydd yn amhosibl i unrhyw un eich adnabod chi a bydd yr holl ddata personol yn cael ei gasglu, ei storio, a'i waredu yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Bydd eich ymatebion yn cael eu dal gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol am ddim mwy na 6 mis yn dilyn dyddiad cau cwblhau'r arolwg hwn, sef 30 Tachwedd 2020.

Gallwch weld hysbysiad preifatrwydd llawn Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yma. Trwy gwblhau'r arolwg hwn, rydych yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio'r wybodaeth a roddwch at y dibenion a amlinellir. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy anfon neges i: info@ccskills.org.uk
0 of 30 answered
 

T