Screen Reader Mode Icon
Mae gennym ddiddordeb yn eich barn am dreftadaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae'r wybodaeth a roddwch yn hynod werthfawr a bydd yn ein helpu i lunio gwaith prosiect yn y dyfodol.
 
Helpwch ni drwy lenwi'r holiadur hwn. Bydd pob holiadur wedi'i gwblhau yn cymryd rhan mewn raffl gyda chyfle i ennill print wedi ei fframio o ffotograff arobryn o'n cystadleuaeth ffotograffiaeth a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
 
 
Ar ben y Chwareli gan David Peers – Enillydd y gystadleuaeth ffotograffiaeth ‘Llechi: Golwg Gwahanol’

Question Title

* A oeddech chi eisoes yn ymwybodol bod Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi’i dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd?

Question Title

* O safbwynt eich busnes/sefydliad beth ydych chi'n meddwl sy'n gwneud Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru mor arbennig? Dewiswch unrhyw rai o'r rhestr isod…

Question Title

* Pa mor bwysig ydych chi’n meddwl yw hi i’ch busnes/sefydliad wneud cysylltiad â Thirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru a’i statws fel Safle Treftadaeth y Byd?

Question Title

* A yw staff/gwirfoddolwyr o’ch busnes/sefydliad eisoes wedi cymryd rhan yn y gweithdai hanner diwrnod i godi ymwybyddiaeth rydym wedi’u cynnal? Er gwybodaeth, dyma'r dolenni i'r Pecyn Gwybodaeth a'r Sioe Sleidiau o'r cwrs.

(Sylwer. Roedd yr adnoddau hyn yn rhan o arbrawf. Fel rhan o Brosiect Llechi Cymru, byddwn yn ceisio darparu adnoddau ychwanegol i fusnesau a sefydliadau).

Question Title

* Os ydyn nhw, pa mor ddefnyddiol oedd y cwrs i chi/eich staff/gwirfoddolwyr?

Question Title

* A fyddech chi a/neu gynrychiolydd(wyr) arall o'ch busnes/sefydliad yn hoffi mynychu gweithdy yn y dyfodol?

Question Title

* Rydym yn datblygu prosiect newydd a fydd yn cynnwys barn pobl wrth wneud penderfyniadau am ddyfodol Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Beth ddylai ein blaenoriaethau fod yn eich barn chi? Rhowch y canlynol mewn trefn gyda'ch prif flaenoriaethau wedi'u rhestru yn gyntaf. Gallwch symud y categorïau neu ddefnyddio'r saethau.

Question Title

* Rydym yn dyfeisio cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ennyn diddordeb pobl yn ein Prosiect Tirwedd Llechi Cymru. Pa un o’r canlynol fyddai o’r diddordeb mwyaf i’ch busnes/sefydliad? Ticiwch bob un sydd o ddiddordeb.

Question Title

* Ydych chi'n teimlo bod eich busnes/sefydliad wedi'i gysylltu'n dda â busnesau/sefydliadau eraill sydd â diddordeb tebyg yn y Dirwedd Llechi a'i statws fel Safle Treftadaeth y Byd?

Question Title

* Ym mha ffyrdd eraill ydych chi’n meddwl y gellid cefnogi eich busnes/sefydliad i gysylltu’n well â’r Dirwedd Lechi a’i statws fel Safle Treftadaeth y Byd?

Question Title

* A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am gysylltiad eich busnes/sefydliad â’r Dirwedd Lechi a’i statws fel Safle Treftadaeth y Byd?

Question Title

* Rhowch eich manylion cyswllt.

Diolch yn fawr iawn am gymryd yr amser i gwblhau ein harolwg. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i’n gwefan a/neu sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Gwefan: https://www.llechi.cymru   Tudalennau Facebook: https://www.facebook.com/LlechiCymruWalesSlate
X: https://twitter.com/LlechiCymru  Instagram: https://www.instagram.com/llechicymru
0 of 12 answered
 

T