Cefndir a gwybodaeth

Mae PACEY Cymru wedi’u siomi i glywed bod Llywodraeth Cymru wedi newid yr arweiniad i'r Cynnig Gofal Plant i rieni sy'n dymuno defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig sydd hefyd yn berthynas. 

Beth yw'r newid yn yr arweiniad sydd wedi'i gadarnhau i Gymru?

Daw'r newid yn yr arweiniad o adolygiad o'r gyfraith mewn perthynas â Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016.  Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi nad yw person sy'n gofalu am blentyn dan ddeuddeg ar eiddo domestig am wobr yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person yn rhiant, neu'n berthynas i'r plentyn neu'n rhiant maeth i'r plentyn.  Aiff y Gorchymyn Eithriadau ymlaen i ddiffinio perthynas fel 'teidiau a neiniau, brodyr, chwiorydd, ewythrodneu fodrybedd (boed yn waed llawn neu hanner gwaed, neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) neu llys-riant.'

Beth oedd yr arweiniad blaenorol?

Dan yr arweiniad blaenorol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, yn esiampl a rennir gan PACEY Cymru o Gymru yn arwain y ffordd er mwyn cefnogi cynaladwyedd gofal plant ac ymagwedd gymesur, gallai neiniau a theidiau neu berthynas arall ddarparu'r Cynnig Gofal Plant a ariennir os bydd y gofal, yn gyfan gwbl neu’ gan amlaf, y tu allan i gartref y plentyn. 

Mae PACEY Cymru yn hynod siomedig am y newid hwn.  Er ein bod ni'n deall ei gyfreithlondeb, credwn yn gryf bod angen newid yn y gyfraith, neu’r dehongliad, i sicrhau bod gwarchodwyr plant yn gallu cyflawni'r Cynnig Gofal Plant yn y dyfodol i berthnasau nad ydynt yn byw gyda nhw.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Rydyn ni'n ymwybodol o amgylchiadau lle mae'r newid hwn yn y sefyllfa wedi golygu bod teuluoedd â threfniadau gofal plant preifat tymor hir gyda gwarchodwyr plant bellach yn cael dewis os ddylid parhau â'u trefniant gwarchod plant preifat presennol, a chost ariannol hyn, neu symud plant i leoliad lle gallant gael gafael ar y cyllid yn amharu'n sylweddol ar barhad y gofal.  Gall hyn fod yn arbennig o niweidiol os oes anabledd neu anghenion arbennig o ran addysg gan y plentyn.  Ni chredwn fod hyn yn cefnogi amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran lles emosiynol plant na chynaliadwyedd darpariaeth gofal plant.

Mae'r gwaharddiad ar blant sy’n perthyn yng Nghymru yn unigryw i warchodwyr plant; caniateir i unigolion sy'n gweithio mewn neu sy’n berchen ar feithrinfa’r hawl i hawlio ar gyfer blant sy’n perthyn.

Rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol ac rydym wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru o ynghylch hyn.  Maent yn ymchwilio ymhellach i’r sefyllfa ac fe ddefnyddir unrhyw dystiolaeth neu astudiaethau achos y gallwn eu casglu i gefnogi ein gwaith ymgyrchu yng Nghymru. 

Os ydych chi'n warchodwr plant cofrestredig yng Nghymru:

·         y mae’r sefyllfa bresennol yn effeithio arnoch,

·         yn debygol o fod yn y dyfodol

·         neu os oes gennych farn ynglŷn â hyn (hyd yn oed os nad effeithir arnoch), byddem yn ddiolchgar

byddem yn ddiolchgar pe byddech chi'n cwblhau'r arolwg byr hwn a ddylai gymryd llai na 10 munud.  Bydd pob barn a rennir yn cael ei drin yn gyfrinachol.  Gallwch chi hefyd gysylltu â ni yn paceycymru@pacey.org.uk i rannu unrhyw bryderon, ymholiadau neu brofiadau penodol.

Question Title

* 1. Enw (dewisol)

Question Title

* 2. E-bost

Question Title

* 3. Beth yw eich rôl?

T