Peilot Rhwydwaith Busnes Cymraeg - Welsh Business Network Pilot
Mae Helo Blod yn cefnogi busnesau bach i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu busnes trwy ddarparu gwasanaeth cyfieithu hwylus a chefnogaeth bersonol, sef Helo Blod Lleol.
Wyt ti’n rhedeg busnes? Oes gen ti ddiddordeb mewn rhwydweithio gyda busnesau eraill drwy’r Gymraeg neu yn ddwyieithog? Dyma gyfle i gwrdd â busnesau newydd a chysylltiadau newydd.
Os wyt ti’n dysgu Cymraeg, ti’n siaradwr mamiaith Gymraeg neu heb siarad ers dyddiau’r ysgol - dan ni eisiau dy gefnogi di trwy roi platfform diogel ac arbennig i ti allu cwrdd â busnesau eraill yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Cei di ddefnyddio cymaint neu cyn lleied ag wyt ti’n hapus i’w ddefnyddio. Rydym eisiau dy gefnogi di ac i ti deimlo’n gyfforddus.
Rydym yn dechrau fel peilot yn y gogledd ddwyrain a’r de orllewin ym mis Ionawr i weld sut mae’n mynd.
Bydd y rhwydwaith yn cael ei gynnal trwy MS Teams neu Zoom. Er mwyn i ni fesur y galw ac ei drefnu i dy siwtio di, basen ni’n gwerthfawrogi taset ti’n llenwi ein holiadur byr erbyn y 30ain o Dachwedd.
Diolch!
Helo Blod supports small businesses to use more Cymraeg in their business by providing a quick and friendly translation service and personal support, Helo Blod Local.
Do you run a business? Are you interested in networking with other businesses through the medium of Cymraeg or bilingually? This can be an opportunity to meet new businesses and new contacts.
If you are learning Cymraeg, you are a first language speaker or have not spoken Cymraeg since the days of school - we want to support you by providing an especially dedicated platform for you to meet other businesses in Cymraeg or bilingually. You can use Cymraeg as much or as little as you are happy to use. We want to support you and make you feel comfortable.
We’re starting as a pilot in the North East and the South West of Wales in January to see how it goes.
The network will be held through MS Teams or Zoom. In order for us to measure the demand and arrange it to suit you, we would appreciate it if you completed our short questionnaire by the 30th of November.