
Cofrestru i Gynllun Peilot Athrawon Caru Darllen |
Rydym yn chwilio am athrawon o Gyfnod Allweddol 2 i gofrestru ar gyfer cynllun peilot Athrawon Caru Darllen, sef grwpiau darllen Cymraeg bydd yn rhedeg yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24 yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Ddinbych.
Trwy ddatgan eich diddordeb isod, rydych yn rhoi caniatâd i ni cysylltu â chi er mwyn cadarnhau a ydych wedi bod yn llwyddiannus yn eich cais i gymryd rhan yn ein peilot.
Ni fydd yr holl ddata personol a gesglir fel rhan o’r arolwg hwn yn cael eu rhannu ag unrhyw bartïon allanol. Mae rhagor o wybodaeth am Bolisi Preifatrwydd Cyngor Llyfrau Cymru ar gael yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau i ni, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Ffôn: 01970 624151 E-bost: plant@llyfrau.cymru