Screen Reader Mode Icon

Gwybodaeth gefndir


Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar sut i Gryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn cael ei wneud gan Brifysgolion Abertawe a Bangor, a Diverse Cymru. Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau 2021.

Pwrpas yr holiadur hwn yw casglu tystiolaeth am y materion cydraddoldeb a hawliau dynol y mae angen eu blaenoriaethu, a cheisio barn ar gamau gweithredu posibl gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Os ydych chi yn cynrychioli sefydliad, cwblhewch yr holiadur hwn os gwelwch yn dda. Os ydych chi yn unigolyn ac nad ydych chi’n cynrychioli sefydliad, cwblhewch yr holiadur isod ar gyfer unigolion. Gallwch hefyd gwblhau’r ddau.

https://www.smartsurvey.co.uk/s/OC3ALZ/ (English)

https://www.smartsurvey.co.uk/s/IO1BMX/ (Cymraeg)

Caniatâd a Chyfrinachedd

Chi sydd i ddewis a ydych chi am lenwi'r holiadur hwn ai peidio.


Os byddwch yn penderfynu llenwi’r holiadur, ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth a fydd yn eich adnabod. Mae’r arolwg yn ddienw. Cewch beidio ag ateb unrhyw gwestiwn os nad ydych yn dymuno. Ar ôl i chi lenwi’r holiadur, ni fyddwn yn gallu tynnu eich atebion o’n hymchwil, gan ei fod yn ddienw.

Byddwn yn defnyddio canfyddiadau’r holiadur fel sail i’n hadroddiad i Lywodraeth Cymru. Gallwn hefyd ddefnyddio’r canfyddiadau mewn cyflwyniadau cyhoeddus ar yr ymchwil, neu mewn erthyglau neu gyhoeddiadau am yr ymchwil.

Question Title

* 1. A fyddech cystal â chadarnhau eich bod yn cytuno i lenwi’r holiadur hwn drwy dicio’r blwch isod:

Question Title

* 2. Ydych chi’n ymateb fel:

Question Title

* 3. Y prif heriau ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yw:

  Cytuno’n Gryf Cytuno Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno Anghytuno Anghytuno'n Gryf
Mynd i’r afael â gwahaniaethu
Gwella addysg ar gydraddoldeb
Gwella addysg ar hawliau dynol
Diffyg adnoddau i gefnogi gweithredu cydraddoldeb a/neu hawliau dynol
Effaith tlodi
Cryfhau arweinyddiaeth
Cryfhau atebolrwydd
ut rydyn ni’n mesur anghydraddoldeb a/neu gydymffurfio â hawliau dynol yng Nghymru
Sut mae sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn adrodd ar gynnydd o ran cydraddoldeb a/neu hawliau dynol
Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gydraddoldeb a/neu hawliau dynol
Cynnwys y cyhoedd mewn penderfyniadau am faterion cydraddoldeb a/neu hawliau dynol
Sicrhau Asesiad Effaith effeithiol

Question Title

* 4. Yn eich barn chi, pa mor effeithiol yw’r ddeddfwriaeth, y polisïau a’r canllawiau presennol o ran sefydlu cyfrifoldebau clir ar gyfer gweithredu ar gydraddoldeb a hawliau dynol?

Question Title

* 5. Beth y gellid ei wneud i egluro pwy sy’n gyfrifol am weithredu ar gydraddoldeb a hawliau dynol?
 
Mewn ymateb i’r cwestiwn uchod, nodwch eich bod yn cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol gan ddefnyddio graddfa 1-5, lle mae 1 yn cytuno’n gryf a 5 yn anghytuno’n gryf.

  Cytuno’n Gryf Cytuno Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno               Anghytuno Anghytuno'n Gryf
Egluro’r dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus drwy ddeddfwriaeth
Egluro’r dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus drwy ganllawiau
Rhoi mwy o wybodaeth i’r cyhoedd am gyfrifoldebau'r awdurdodau cyhoeddus
Cryfhau’r gofynion adrodd
Sefydlu dangosyddion newydd i fesur cynnydd

Question Title

* 6. I ba raddau y mae deddfwriaeth, polisi ac arweiniad cyfredol yn sefydlu blaenoriaethau clir ar gyfer gweithredu gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion, ar gydraddoldeb a hawliau dynol?

  Mae’r blaenoriaethau’n glir iawn Mae’r blaenoriaethau’n eithaf clir Nid yw’r blaenoriaethau’n glir iawn Nid yw’r blaenoriaethau’n glir o gwbl Ddim yn gwybod/Ddim yn siŵr
Ynghylch
Ynghylch hawliau dynol

Question Title

* 7. Beth arall y gellid ei wneud i hyrwyddo neu annog awdurdodau cyhoeddus i weithredu, gan gynnwys Gweinidogion, ar gydraddoldeb a/neu hawliau dynol?

Question Title

* 8. Mae ‘llesiant’ yn cael ei hyrwyddo fel amcan ar gyfer polisi cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys mewn deddfwriaeth.

Mewn ymateb i’r cwestiwn uchod, nodwch eich bod yn cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol ynglŷn â ‘llesiant’ gan ddefnyddio graddfa 1-5, lle mae 1 yn cytuno’n gryf a 5 yn anghytuno’n gryf.

  Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Mae’n amlwg beth mae llesiant yn ei olygu mewn polisi cyhoeddus yng Nghymru
Mae llesiant yn gwbl ddealladwy fel amcan polisi yng Nghymru
Mae’n amlwg sut mae llesiant a chydraddoldeb yn gysylltiedig ag amcanion polisi yng Nghymru
Mae’n glir sut mae llesiant a hawliau dynol yn gysylltiedig ag amcanion polisi yng Nghymru
Mae sicrhau bod amcanion cydraddoldeb yn cael eu cyflawni yn allweddol er mwyn cyflawni amcanion llesiant
Mae sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu gwarantu yn allweddol i gyflawni amcanion llesiant
Mae’n glir sut mae dangosyddion llesiant yn cefnogi amcanion cydraddoldeb a hawliau dynol

Question Title

* 9. Sut gallem gryfhau’r cysylltiadau rhwng cydraddoldeb a/neu hawliau dynol, a llesiant yng ngwaith awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru?

Question Title

* 10. A yw’r fframwaith deddfwriaethol presennol (statudol a rheoliadaol) sydd mewn grym yng Nghymru yn ddigonol i hyrwyddo cydraddoldeb a/neu hawliau dynol?

  Ydy O bosibl, gyda’r sgôp i gryfhau’r fframwaith Na Ddim yn gwybod/Ddim yn siŵr
Ym maes cydraddoldeb
Ym maes hawliau dynol

Question Title

* 11. Mae Cymru wedi ymgorffori rhai cytundebau hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru (ee Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn).

A ddylai Cymru ymgorffori mwy o gytundebau hawliau dynol yng nghyfraith Cymru?

Question Title

* 12. A yw mecanweithiau monitro yng Nghymru yn effeithiol i adlewyrchu cynnydd (neu ddiffyg cynnydd) ar gydraddoldeb yng Nghymru?

Question Title

* 13. P’un a wnaethoch ateb ydyn neu nac ydyn i’r cwestiwn olaf, nodwch eich bod yn cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol gan ddefnyddio graddfa 1-5, lle mae 1 yn dangos cytundeb cryf a 5 yn awgrymu eich bod yn anghytuno’n gryf

  Cytuno’n Gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Mae angen i ni wella dangosyddion sy’n mesur cydymffurfiad â dyletswyddau cydraddoldeb
Mae angen i ni wella dangosyddion ar ganlyniadau cydraddoldeb
Dylai awdurdodau cyhoeddus adrodd yn fwy manwl ar ddata cydraddoldeb yn gyffredinol
Dylai awdurdodau cyhoeddus gasglu mwy o ddata am ganlyniadau cydraddoldeb
Dylai awdurdodau cyhoeddus adrodd yn fwy manwl ar ganlyniadau cydraddoldeb ar gyfer gwahanol grwpiau
Dylai awdurdodau cyhoeddus gasglu tystiolaeth o brofiadau go iawn pobl o gydraddoldeb
Dylai awdurdodau cyhoeddus adrodd yn ôl ar brofiadau go iawn pobl o gydraddoldeb

Question Title

* 14. A yw mecanweithiau monitro yng Nghymru yn effeithiol i adlewyrchu cynnydd (neu ddiffyg cynnydd) ar gydraddoldeb yng Nghymru?

Question Title

* 15. P’un a wnaethoch ateb ydyn neu nac ydyn i’r cwestiwn olaf, nodwch eich bod yn cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol gan ddefnyddio graddfa 1-5, lle mae 1 yn cytuno’n gryf a 5 yn anghytuno’n gryf.

  Cytuno’n Gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn Anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Mae angen i ni wella dangosyddion ar gydymffurfio â dyletswyddau hawliau dynol
Mae angen i ni wella dangosyddion ar ganlyniadau hawliau dynol
Dylai awdurdodau cyhoeddus gasglu mwy o ddata am ganlyniadau hawliau dynol
Dylai awdurdodau cyhoeddus adrodd yn fwy manwl ar ddata hawliau dynol yn gyffredinol
Dylai awdurdodau cyhoeddus adrodd yn fwy manwl ar ganlyniadau hawliau dynol ar gyfer gwahanol grwpiau
Dylai awdurdodau cyhoeddus gasglu tystiolaeth ar brofiadau go iawn pobl  o hawliau dynol
Dylai awdurdodau cyhoeddus adrodd ar brofiadau go iawn pobl o hawliau dynol

Question Title

* 16. Pa mor effeithiol yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o ran dal i gyfri awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion, am gydraddoldeb a/neu hawliau dynol yng Nghymru?

  Effeithiol iawn Eithaf effeithiol Ddim yn effeithiol iawn Ddim yn effeithiol o gwbl Ddim yn gwybod/Ddim yn siŵr
Ynghylch materion cydraddoldeb
Ynghylch materion hawliau dynol

Question Title

* 17. A ydych yn credu bod awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn gwbl atebol am y modd y maen nhw’n gweithredu mewn perthynas â chydraddoldeb a/neu hawliau dynol yng Nghymru?

  Ydn Nac ydyn Ddim yn gwybod/Ddim yn siŵr
Ynghylch cydraddoldeb
Ynghylch hawliau dynol

Question Title

* 18. A ydych yn credu y gellid gwneud mwy i wneud awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion, yn fwy atebol dros gydraddoldeb a/neu hawliau dynol yng Nghymru?

Question Title

* 19. Os na, ewch i’r cwestiwn nesaf

Os ydw, nodwch eich bod yn cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol gan ddefnyddio graddfa 1-5, lle mae 1 yn cytuno’n gryf a 5 yn anghytuno’n gryf.

  Cytuno’n Gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno         Anghytuno Anghytuno'n Gryf
Mae angen i ni gryfhau atebolrwydd cyfreithiol dros gydraddoldeb a hawliau dynol
Mae angen i ni gryfhau asesiadau effaith
Mae angen i ni wella’r mecanweithiau cwyno lle mae’r dyletswyddau cydraddoldeb neu hawliau dynol yn cael eu torri
Mae angen i ni wreiddio cydraddoldeb a hawliau dynol mewn fframweithiau arolygu a rheoleiddio
Mae angen i ni roi mwy o gyfleoedd i graffu’n gyhoeddus ar ddyletswyddau cydraddoldeb cydymffurfio a hawliau dynol
Mae angen i ni gael mwy o adroddiadau ar sut mae awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol
Mae angen i fudiadau cymdeithas sifil gael gwell adnoddau i  oi cefnogaeth, cyngor ac eiriolaeth
Mae angen i fudiadau cymdeithas sifil gael mwy o adnoddau i weithio gyda chyrff cyhoeddus i wella cydraddoldeb a hawliau dynol
Mae angen i fudiadau cymdeithas sifil gael mwy o adnoddau i ymgysylltu â phobl amrywiol

Question Title

* 20. 20. Ydych chi’n credu y gallai Llywodraeth Cymru a/neu awdurdodau cyhoeddus wneud mwy i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gydraddoldeb a hawliau dynol?

Question Title

* 21. Os na, rydych chi wedi cwblhau’r holiadur. A fyddech cystal â’i gyflwyno gan ddefnyddio’r botwm isod.

Os ydw, nodwch eich bod yn cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol gan ddefnyddio graddfa 1-5, lle mae 1 yn cytuno’n gryf a 5 yn anghytuno’n gryf

  Cytuno’n Gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno     Anghytuno Anghytuno'n Gryf
Dylai Cymru benodi Gweinidog dros gydraddoldeb a Hawliau Dynol
Mae angen canolbwyntio mwy ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn y cwricwlwm
Mae angen mwy o Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus ar gydraddoldeb a hawliau dynol
Mae angen mwy o ymgyrchoedd gwybodaeth ar gydraddoldeb a hawliau dynol
Mae angen i awdurdodau cyhoeddus wneud mwy i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ar lefel leol
Mae angen i Weinidogion ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol
Mae angen i Weinidogion ddefnyddio’r cyfryngau’n fwy effeithiol i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol

Question Title

* 22. Cofiwch gynnwys unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill yr hoffech eu hychwanegu.

0 of 22 answered
 

T