Cynllun Cymunedol Clydach

Mae Cynllun Cymunedol yn gyfle i drigolion Clydach godi llais am yr hyn sydd yn bwysig i chi a sut yr ydych yn teimlo am y lle yr ydych yn byw. Mae'n ffordd o ddarparu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y pentref, gan amlinellu dyheadau, anghenion a blaenoriaethau lleol. Bydd hyn yn cynorthwyo'r Cyngor Cymuned i ddatblygu eich cymuned.

Question Title

* 2. Beth yw eich oedran?

Question Title

* 3. Beth yw eich teimladau am y gosodiadau canlynol am hanes a threftadaeth yng Nghlydach?

  Cytuno'n gryf Cytuno Dim barn Anghytuno Anghytuno'n gryf
Mae'n bwysig amddiffyn treftadaeth yng Nghlydach 
Dylid gwneud mwy i addysgu plant Clydach am hanes y pentref
Dylid hyrwyddo ardaloedd hanesyddol lleol yn well
Mae angen buddsoddiad cyllidol gan y Cyngor er mwyn cefnogi treftadaeth leol

Question Title

* 4. Ystyriwch y cwestiynau canlynol am fusnesau lleol, os gwelwch yn dda.

  Cytuno'n gryf Cytuno Dim barn Anghytuno Anghytuno'n gryf
Mae'r siopau yn y pentref yn annog pobl i symud i'r ardal 
Gall busnesau lleol gynorthwyo i gynyddu gwerth tai lleol 
Byddai gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau busnes yn denu mwy o fusnesau i'r ardal 
Byddai gwell cyfleusterau parcio yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau lleol
Mae angen amrywiaeth ehangach o fusnesau yn yr ardal

Question Title

* 5. Gosodwch y canlynol mewn trefn pwysigrwydd (1 i 9), os gwelwch yn dda. Beth sy'n bwysig i'w gofio neu ei flaenoriaethu pan fo ceisiadau cynllunio'n cael eu cyflwyno a'u hystyried. 1 yw y mwyaf pwysig a 9 yw'r lleiaf pwysig.

Question Title

* 6. Disgrifiwch, os gwelwch yn dda, eich teimladau am Ddiogelwch yn y Gymuned ac Atal Trosedd yng Nghlydach

  Hynod o bwysig Pwysig Ddim mor bwysig Ddim yn bwysig o gwbl Dim barn
Bod angen gorsaf heddlu weithredol gydag heddweision a Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (PCSO) ar batrwm 24/7
Bod angen camerau cylch cyfyng (CCTV) sy'n cadw golwg ar briffyrdd Clydach
Bod angen cyfarfodydd PACT (Police and Communities Together) rheolaidd gyda'r heddlu lleol
Bod angen gweld swyddog heddlu lleol yn patrolio holl ardaloedd Clydach yn rheolaidd 
Bod angen i'r Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (PCSO) lleol fod yn gallu cyrraedd holl ardaloedd y pentref trwy ddefnyddio car
Bod gan Ysgol Gynradd St Joseph ac Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen groesfan i gerddwyr dan ofal unigolyn
Bod wardeiniaid traffig yn patrolio ardaloedd uchel eu traffig am foduron sydd wedi parcio ar linellau dwbl melyn a llinellau igam-ogam
Bod ardaloedd Gwarchod Cymdogaeth yn cael eu sefydlu yng Nghlydach
Bod ardaloedd 'Dim galw heb wahoddiad' yn cael eu sefydlu yng Nghlydach

Question Title

* 7. Ystyriwch y gosodiadau hyn yng nghyd-destun y ddarpariaeth sydd yn y gymuned ar gyfer plant a phobl ifanc.

  Cytuno'n gryf Cytuno Dim barn  Anghytuno Anghytuno'n gryf
Byddai'r pentref yn elwa o Glwb Ieuenctid wedi'i gydlynu
Fe ddylai fod un pwynt hyrwyddo canolog ar gyfer gweithgareddau ieuenctid
Byddai parc / rampiau beicio lleol yn fuddiol
Byddai Clydach yn elwa o sefydlu Cyngor Ieuenctid bywiog ac fe ddylid clywed eu llais
Byddai creu cae chwarae 3G yn fuddiol
Mae digon o barciau chwarae i blant bach yng Nghlydach
Byddai grwpiau rhieni a phlant bach yn gefnogaeth i rieni a phlant

Question Title

* 8. Ystyriwch y gosodiadau canlynol ar Aestheteg Cymuned a Gofodau Awyr Agored

  Cytuno'n gryf Cytuno Dim Barn Anghytuno Anghytuno'n gryf
Mae angen mwy o finiau sbwriel ar hyd a lled y gymuned
Mae angen mwy o finiau baw cŵn ar hyd a lled y gymuned
Mae basgedi sy'n hongian o bolion lamp a chafnau blodau wedi'u gosod ar hyd a lled y pentref yn ystod yr haf yn cynyddu harddwch yr ardal leol. 
Byddai goleuadau Nadolig yn hongian o'r polion lamp yn ychwanegiad gwych i'r Stryd Fawr
Gellid cyflawni mwy er mwyn casglu sbwriel oddi ar ein strydoedd ar batrwm rheolaidd
Byddai blaen-siopau wedi'u gwneud yn broffesiynol yn gwella golwg yr ardal leol 
Dylid gwneud mwy i amddiffyn llwybrau cerdded mewn coedwigoedd, ger afonydd a chamlesi, a chaeau chwarae er mwyn eu gwneud yn haws i'w defnyddio a'u mwynhau

Question Title

* 9. Ystyriwch y gosodiadau dilynol ar y ddarpariaeth i bobl hŷn yng Nghlydach.

  Cytuno'n gryf Cytuno Dim barn Anghytuno Anghytuno'n gryf
Mae digon o gyfleoedd cymdeithasu i bobl oedrannus 
Mae angen darparu mwy o barcio i'r anabl
Mae siopau a banciau lleol (neu debyg) yn hawdd i'w cyrraedd i'r rheini sydd â phroblemau symudedd
Byddai Clydach yn cael budd o Gydlynydd Ardal Leol a fyddai'n gweithredu fel cyswllt rhwng clybiau a grwpiau ar gyfer pobl hŷn
Byddai gwasanaeth i gynorthwyo pobl oedrannus i agor cyfrif swyddfa post yn ddefnyddiol i'r rheini sydd ddim yn bancio ar-lein

Question Title

* 10. Mae Cyngor Cymuned Clydach yn trefnu digwyddiadau gydol y flwyddyn. Pa ddigwyddiadau ydych chi'n fwyaf tebygol o'u mynychu. Gallwch ddewis mwy nag un.

Question Title

* 11. Atebwch Ydi/Ie neu Na am eich ymwybyddiaeth o'r canlynol, os gwelwch yn dda. Mae'r gosodiadau oll yn cyfeirio at Gyngor Cymuned Clydach.

  Ydi/Ie Na
Mae'r Cyngor Cymuned yn gwasanaethu wardiau Graigfelen, Faerdre, Clydach a'r Glais
Mae'r Cyngor yn cyfarfod ar ail ddydd Mawrth y mis yng Nghanolfan y Gymuned, Heol Faerdre.
Gall y cyhoedd fynychu cyfarfodydd y Cyngor
Gwefan y Cyngor yw: www.clydachcouncil.co.uk
Mae 16 Cynghorydd ar y Cyngor  
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am Neuadd Faerdre, Neuadd Graigfelen, Parc Forge Fach a Llain y Pentref ar Barc Waverley
Bob mis, caiff y Cyngor ystyried ceisiadau Cynllunio yng Nghlydach
Mae'r Cyngor yn pennu rhan o'r dreth cyngor bob blwyddyn
Mae'r Cyngor yn gweithredu gyda, ac ar ran, y gymuned ar unrhyw fater o bwys neu bryder
Mae'r Cyngor yn cyfrannu'n ariannol at y gwaith o lanhau ein strydoedd a gwagu biniau cyhoeddus
Mae'r Cyngor yn rhoi unrhyw elw a wnaiff o ddigwyddiadau y mae'n eu cynnal i grwpiau, clybiau ac achosion da lleol
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am ddigwyddiadau, blodau, a goleuadau Nadolig yn y pentref
Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Cynghorwyr Sir lleol er mwyn cynrychioli eich safbwyntiau a'ch pryderon

Question Title

* 12. Pe byddai busnes lleol yn cynnig cynllun teyrngarwch, pa mor barod fyddech chi i ddefnyddio'r busnes hwnnw ar draul busnesau tebyg eraill?

Question Title

* 13. Ymhle fyddech chi'n edrych er mwyn cael gwybod beth sy'n digwydd yng Nghlydach?

Question Title

* 14. Ydych chi'n gwybod beth yw lleoliadau y 7 Diffibriliwr (Defibrillator) sydd ar hyd a lled Clydach?

Question Title

* 15. A ydych yn credu y byddech yn elwa o dderbyn hyfforddiant am ddim ar sut i ddefnyddio Diffibriliwr yng Nghlydach?

Question Title

* 16. Pe byddai hyfforddiant ar ddefnyddio Diffibrilwyr yn cael ei drefnu, a fyddech yn ei fynychu?

Question Title

* 17. Yn eich barn chi, beth fyddai'n cynorthwyo Clydach i gynyddu ei lefelau o dwristiaeth?

Question Title

* 18. A fyddech chi'n gwirfoddoli yn eich cymuned leol? Gallai hyn fod yn fater o gynorthwyo grwpiau lleol, neu wirfoddoli gyda'r Cyngor Cymuned wrth baratoi ar gyfer a chynnal digwyddiadau?

Question Title

* 19. Defnyddiwch y gofod hwn ar gyfer cyflwyno syniadau adeiladol ar sut y gallwn greu Cynllun Cymunedol effeithiol ar gyfer Clydach a beth y dylid ei gynnwys.

Question Title

* 20. Mae croeso i chi nodi yma eich manylion cyswllt. Bydd y wybodaeth yma'n cael ei ddefnyddio gan Gyngor Cymuned Clydach yn unig at bwrpasau'r arolwg hwn ac ni fydd yn cael ei rannu gydag eraill heb eich caniatad.

T