Mae'r pandemig Covid-19 presennol wedi gorfodi cyfnod o oedi i ymwelwyr ag Ynys y Barri. Ar adeg pan fo cyfyngiadau ar waith i sicrhau diogelwch pawb, byddwn yn defnyddio'r amser hwn i ystyried y gyrchfan sydd wedi dod ohoni. Ein nod yw dathlu ei chryfderau allweddol a nodi meysydd lle gellir gwneud gwelliannau i sicrhau bod Ynys y Barri yn parhau’n gryf yn y blynyddoedd i ddod.

 Twf Ynys y Barri

Bu twf digynsail yn Ynys y Barri dros y degawd diwethaf. Ynghyd â miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad cyhoeddus mewn seilwaith gwell i adfywio promenâd y dwyrain, mae busnesau preifat wedi canolbwyntio ar gynyddu buddsoddiad wrth iddynt ragweld potensial y gyrchfan yn y dyfodol. Mae nifer yr ymwelwyr yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac mae poblogrwydd y gyrchfan ar ei uchaf erioed yn dilyn darllediad Gavin & Stacey ddydd Nadolig a dorrodd record!

Beth fydd y dyfodol?

Gyda hyn mewn golwg, hoffem gael eich barn. Sut yr hoffech chi weld Ynys y Barri'n datblygu yn y dyfodol? Pa welliannau gellid eu gwneud? Pa gyfleusterau hoffech chi eu gweld ar gael? Bydd eich adborth yn ein helpu i ddatblygu Ynys y Barri yn gyrchfan y bydd ymwelwyr eisiau ymweld â hi, nid dim ond heddiw, ond yn y dyfodol hefyd.

Wrth lenwi'r holiadur hwn, dylech ystyried y gwelliannau a fyddai'n eich annog chi i barhau i ddychwelyd i Ynys y Barri yn y dyfodol.

(At ddibenion yr holiadur hwn, diystyrwch eich profiad yn ystod Covid-19, gan ateb y cwestiynau gyda’r cyfnod cyn cloi dan sylw)

T