Check SCREEN READER MODE to make this survey compatible with screen readers.

Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) a Chyfleoedd Croeso Cymru |
Cyfle a Cais am Adborth
Mae Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) yn farchnad ddigidol ganolog. Mae'n galluogi cyflenwyr twristiaeth i gontractio a chysylltu eu cynnwys, eu hargaeledd a'u prisiau ag ystod amrywiol o ddosbarthwyr ar yr un pryd a rheoli hyn mewn un lle.
Mae TXGB yn caniatáu i gyflenwyr archebu lle ar ystod eang o sianeli dosbarthu (gan gynnwys gweithredwyr arbenigol, cyrchfannau ac OTAs). Nid oes tâl cysylltu, nid oes rhaid i chi gael archebion ar-lein ar eich gwefannau eich hun, a gallwch reoli eich dosbarthiad i gyd mewn un lle. Yn syml, rydych chi'n talu ffi archebu o 2.5% - dim ond ar archebion a gynhyrchir - ynghyd â chomisiwn y dosbarthwr a ddewiswyd.
Gall defnyddio’r Gyfnewidfa Dwristiaeth:
- darparu ffordd hawdd o weithio gyda mwy o sianeli heb gynyddu gweinyddiaeth, cyrraedd mwy o gwsmeriaid, cynyddu gwerthiant, lleihau dibyniaeth ar un sianel werthu a lleihau costau comisiwn
- darparu mynediad i fwy o sianeli dosbarthu a sicrhau bod modd archebu sgil-gynhyrchion mewn ymgyrchoedd marchnata cyrchfan cenedlaethol a rhanbarthol.
Mae Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru wedi trwyddedu TXGB i sicrhau ei fod ar gael i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae platfform TXGB Cymru Wales bellach ar waith ac mae busnesau a rhanbarthau Cymru yn cael eu cynnwys.
Er mwyn ein helpu i ddeall y sefyllfa bresennol o ran archebu a marchnata busnesau Cymru, byddem yn gwerthfawrogi eich amser yn cwblhau'r arolwg hwn.