Question Title

* 1. Enw llawn

Question Title

* 2. Cyfeiriad

Question Title

* 3. Rhif/au Cyswllt

Question Title

* 4. E-Bost

Question Title

* 5. Os oes gennych chi ofynion ychwanegol a fyddai’n eich galluogi i gyfranogi disgrifiwch y rhain isod (er enghraifft dogfennau hawdd eu darllen, testun mawr, dolen clyw, cwmni gweithiwr cymorth, trefniadau eistedd penodol ac ati)

Question Title

* 6. Eglurwch pam fod gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n Prosiect Cyfranogiad Goroeswyr a soniwch am unrhyw brofiad, sgiliau a gwybodaeth berthnasol sydd gennych chi (defnyddiwch Fanyleb yr Unigolyn a’r Disgrifiad o’r Tasgau yn y pecyn ymgeisio i’ch arwain gyda’r cwestiwn hwn. Os nad ydych chi’n cwblhau’r ffurflen ar-lein gallwch ddefnyddio papur ychwanegol os oes angen)

Question Title

* 7. Mae Cymorth i Ferched Cymru’n gofyn am o leiaf 8 awr y mis o ymrwymiad i’r prosiect. Dywedwch wrthym faint o oriau rydych chi’n credu y byddwch yn gallu eu cynnig, a pha ddyddiau ac amseroedd yn yr wythnos fyddwch chi ar gael. Dywedwch wrthym a ydych chi mewn cyflogaeth neu a oes ymrwymiadau gwirfoddoli eraill gennych. Dywedwch hefyd a oes gennych chi gyswllt rhyngrwyd rheolaidd a dibynadwy, neu a hoffech dderbyn unrhyw ohebiaeth drwy’r post neu drwy ddull arall.

Question Title

* 8. Gan fod y prosiect yn cwmpasu ardal fawr, a gallai gynnwys cyfarfod yn rheolaidd fel grŵp ar gyfer hyfforddiant a gweithgareddau eraill, gallai fod angen i gyfranogwyr deithio i leoliadau mwy canolog. Nodwch isod os oes gennych broblemau a allai ei gwneud yn anodd i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio allan o’ch ardal leol. Nodwch y bydd Cymorth i Ferched Cymru yn gallu ad-dalu costau teithio rhesymol i chi fel cyfranogwr.

Question Title

* 9. Gan fod hwn yn brosiect i fenywod sydd wedi profi trais a cham-drin, mae’n bwysig ein bod yn nodi unrhyw risgiau i chi neu eich teulu a allai godi o’ch cyfranogiad. Does dim rhaid i chi rannu manylion eich profiad gyda ni yma ond gallwch ddefnyddio’r gofod isod i roi gwybod i ni os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich diogelwch pe baech chi’n dod yn gyfranogwr.

Nodwch os nad ydych chi’n dweud wrthym ni am unrhyw faterion a allai effeithio ar eich diogelwch, na fydd Cymorth i Ferched Cymru yn gallu asesu unrhyw risgiau posibl a allai ddeillio o’ch cyfranogiad yn y prosiect. Ambell waith fe allai fod yn ofynnol i ni rannu gwybodaeth os ydym ni’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ac os yn bosibl byddem yn trafod hyn gyda chi yn gyntaf. Os ydych chi’n pryderu am eich diogelwch chi, eich teulu neu rywun arall, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth 24 awr Byw Heb Ofn am ddim ar 08088010800

Question Title

* 10. Dewiswch y cyfleoedd yr hoffech chi gymryd rhan ynddyn nhw o’r rhestr isod:

Question Title

* 11. Ymhle clywsoch chi am Brosiect Cyfranogiad Goroeswyr Cymorth i Ferched Cymru?

Question Title

* 12. Mae’r cwestiynau nesaf yn sicrhau ein bod yn bodloni ein hymrwymiadau cyfle cyfartal ac mae eich atebion yn gyfrinachol. Cwblhewch bob adran.

Beth yw eich oed?

Question Title

* 13. Sut fyddech chi’n disgrifio eich grŵp neu gefndir ethnig?

Question Title

* 14. Oes gennych chi blant?

Question Title

* 15. Os oes gennych chi blant defnyddiwch y gofod isod i ddweud sut y gallen ni eich cynorthwyo gyda gofal plant; er enghraifft, oed eich plant, ac os ydyn nhw yn yr ysgol, ydych chi’n gallu manteisio ar gyfleusterau clwb ar ôl ysgol neu gyfleuster gofal plant lleol?

Question Title

* 16. Beth yw eich crefydd/cred

Question Title

* 17. Ydych chi’n ystyried bod gennych chi anabledd?

Question Title

* 18. Ydych chi wedi’ch cofrestru’n anabl?

Question Title

* 19. Sut fyddech chi’n disgrifio eich rhywedd?

Question Title

* 20. A yw eich rhywedd yr un fath ag a neilltuwyd i chi ar adeg eich geni?

Question Title

* 21. Sut fyddech chi’n disgrifio eich rhywioldeb?

Question Title

* 22. Nodwch eich lefel o wybodaeth o’r Gymraeg

  Dim gwybodaeth                        Ychydig/sylfaenol Da Rhugl
Dealltwriaeth
Siarad
Darllen
Ysgrifennu

Question Title

* 23. Yn ystod eich ymwneud gyda Cymorth i Ferched Cymru, rhaid i’r sefydliad gydymffurfio â’r holl bolisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â deddfwriaeth Diogelu Data. Mae hyn yn ymdrin â’r modd y caiff gwybodaeth bersonol ei dal a’i defnyddio.

Mae angen i ni ddal rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi i sicrhau bod ein busnes yn rhedeg yn effeithlon. Bydd y math o wybodaeth y byddwn ni’n ei dal yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) eich cyfeiriad cartref a manylion cyswllt brys (rhag ofn i chi gael damwain wrth ymwneud â’r prosiect). Bydd hefyd angen i ni gael data personol yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

a)     Eich proffil – Byddwn yn dal gwybodaeth am eich rhywedd, oed, tarddiad ethnig ac anabledd (os oes gennych chi un). Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i’n galluogi i fonitro tueddiadau a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gweithlu.

b)    Cofnodion Troseddol/y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – yn ddarostyngedig i’r gyfraith ar euogfarnau sydd wedi darfod, gallai fod angen y math hwn o wybodaeth os yw’n berthnasol i’ch gwaith

Gallai’r dibenion hyn newid ac os felly cewch eich hysbysu.

Bydd yr wybodaeth hon a’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu ar eich ffurflen gais yn ffurfio sail eich cofnod personél a chaiff ei phrosesu’n unol ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998. Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio a’i rhannu o fewn Cymorth i Ferched Cymru. Mae gennych hawl i wneud cais a chael copi o’r wybodaeth sy’n ymwneud â chi a ddelir yn ein systemau. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am flwyddyn ar ôl diwedd eich ymglymiad fel cyfranogwr.

Nodwch isod os ydych chi’n cydsynio i Cymorth i Ferched Cymru storio eich gwybodaeth fel yr amlinellir uchod:

Question Title

* 24. Mae gan Cymorth i Ferched Cymru ddyletswydd i atal pobl anaddas rhag gweithio gyda grwpiau agored i niwed, gan gynnwys oedolion agored i niwed. Mae’r Gwasanaeth Datgelu ac Atal wedi cymryd lle’r Swyddfa Cofnodion Troseddol a’r Awdurdod Diogelu Annibynnol fel y corff sy’n darparu gwiriadau cofnod troseddol ar unigolion. Gan ddibynnu ar y rolau y byddwch chi’n dewis ymgymryd â nhw mae’n bosibl y bydd angen i chi gael gwiriad sy’n golygu cwblhau ffurflen gais a chyflwyno tystiolaeth o bwy ydych chi. Gallwn helpu i ddarparu cymorth i gwblhau’r cais os bydd angen.

Ni fydd cael euogfarn neu rybudd troseddol yn eich atal yn awtomatig rhag ymuno. Bydd yn dibynnu ar natur y datgeliad. Nodwch isod os ydych chi’n cydsynio i Cymorth i Ferched Cymru wneud Gwiriad Datgelu ac Atal os bydd angen ar gyfer eich rôl.

Hoffai Cymorth i Ferched Cymru gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich diddordeb yn y prosiect cyfranogiad goroeswyr. Rydym ni’n recriwtio i’r prosiect bob chwe mis, felly byddwn yn eich hysbysu am ganlyniad eich cais a manylion ynghylch pa bryd y byddwn ni’n dechrau ein hymgyrch recriwtio nesaf.

T