Ffurflen gofrestru rhwydweithio cyflym Ffilm Cymru Wales yn yr Eisteddfod |
Ffilm Cymru yn cyflwyno Rhwydweithio Cyflym yn yr Eisteddfod.
16:00 - 17:30 yn Look Out Cafe Bar, Heol Porth Teigr, Porth Teigr, Bae Caerdydd CF10 4GA.
Oed: 18+
Oed: 18+
A ydych chi’n weithiwr creadigol yn dymuno ysgrifennu, cynhyrchu neu gyfarwyddo ffilm? A ydych chi’n dueddol o gael eich dal yn yr un sgwrs am awr gyda’r person cyntaf ichi gwrdd mewn ystafell? Efallai mai digwyddiad rhwydweithio cyflym Ffilm Cymru yw’r peth i chi, a hynny am ddim! Caiff cyfranogwyr y cyfle i gwrdd yn unigol â gwneuthurwyr ffilm o Gymru sydd wedi ennill eu plwyf, a hynny mewn sefyllfa hwyliog ac anffurfiol dan arweiniad cynrychiolwyr Ffilm Cymru. I gymryd rhan, cofrestrwch erbyn dydd Gwener 3ydd Awst drwy glicio ar y ddolen hon: https://www.surveymonkey.co.uk/r/eisteddfodffilmcymru.
Noder: nifer gyfyngedig o leoedd sydd yn y digwyddiad hwn, a byddant yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Digwyddiad yn y Gymraeg fydd hwn.
Ffilm Cymru Wales yw’r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer ffilm yng Nghymru. Gweithiwn ar draws cadwyn gyflenwi’r sector, a chynorthwywn waith datblygu ffilm, cynhyrchu, sinemâu, gwyliau ffilm ac addysg ffilm a’r cyfryngau, gan gynnig cyngor, cyllid, datblygu sgiliau ac eiriolaeth. Caiff Rhwydwaith Doniau Cymru y BFI ei gyflawni gan Ffilm Cymru Wales ac mae’n rhan o raglen ar draws y Deyrnas Unedig i nodi a meithrin gwneuthurwyr ffilm newydd ac addawol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i