Elusen gwrth-hiliaeth yw Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru sy'n anelu at fynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion ac yn y gymdeithas. Trwy rannu eich profiadau rydych yn helpu llywio a gwella ein gwaith i roi gwell cefnogaeth i chi a'ch disgyblion. Er mwyn sicrhau anhysbysrwydd a chyfrinachedd, peidiwch ddatgelu enw unrhyw ddisgybl, staff neu ysgol.

Diffiniad o wahaniaethu hiliol yw:

“unrhyw wahaniaeth, gwaharddiad, cyfyngiad neu ffafriaeth ar sail hil, crefydd, lliw, disgyniad, neu darddiad cenedlaethol neu ethnig sydd â'r diben neu'r effaith o ddirymu neu amharu ar gydnabyddiaeth, mwynhad neu ymarfer, ar lefel gyfartal, hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn y maes gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol neu unrhyw un arall o fewn bywyd cyhoeddus"

Rydym yn awyddus i ddarganfod:

- os gan ddisgyblion gamsyniadau ynghylch neu wahaniaethu yn erbyn nodweddion penodol

- pa bynciau fyddai'n fwyaf buddiol ar gyfer eich myfyrwyr i drafod a dysgu

- os yw athrawon yn teimlo'n hyderus ac wedi'u hyfforddi'n dda i addysgu a thrafod gwrth-hiliaeth

- os yw athrawon yn teimlo'n hyderus ac wedi'u hyfforddi’n dda i adnabod, ymateb i, adrodd ar a dilyn achosion a amheuir o wahaniaethu ar sail hil

 

Bydd hyn yn ein galluogi i deilwra ein gweithdai ar gyfer ysgolion a hyfforddiant darpar athrawon ar draws Cymru i fynd i'r afael â materion penodol, stereoteipiau, camsyniadau ac agweddau hiliol.

 

Diolch am eich amser.

 

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

T