Check SCREEN READER MODE to make this survey compatible with screen readers.
Canolfan Asesu Meddygaeth Niwclear
Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
Arolwg Adborth o'r Ymgynghoriad
Diolch yn fawr am roi o'ch amser i roi adborth ar gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwahodd sylwadau i fod yn sail i ddatblygu eu cynigion er mwyn gwella eu gwasanaethau a'u galluoedd Radioleg.
Y lleoliad arfaethedig ar hyn o bryd ar gyfer y cyfleuster gwell newydd yn Ysbyty Glan Clwyd yw iard storio awyr agored sy'n bodoli eisoes o fewn ystad yr ysbyty.
Mae cynlluniau wrthi'n cael eu datblygu er mwyn gwella'r gwasanaethau presennol yn y maes hwn trwy gyflwyno canolfan asesu meddygaeth niwclear bwrpasol newydd yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r cynigion yn rhan o ymdrech barhaus y Bwrdd Iechyd i wella gofal cleifion yn gyson.
Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried a byddant yn cynorthwyo tîm y prosiect i lywio'r cynigion. Bydd yr holl sylwadau'n cael eu trin yn gyfrinachol, ac ni fydd enw unrhyw unigolion yn cael eu nodi pan fydd sylwadau neu adborth yn cael eu cyflwyno.