Screen Reader Mode Icon
Mae CGGC wrthi’n ymgynghori â’r sector i glywed ei farn ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cynllun yn ymdrin â nifer o feysydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, felly mae’n hollbwysig fod cymaint â phosibl o fudiadau’n dweud eu dweud.

Hoffem glywed eich barnau drwy’r arolwg hwn. Bydd yr holl safbwyntiau’n cael eu hystyried yn ofalus ar gyfer ein hymateb terfynol i’r ymgynghoriad. Rydyn ni’n awyddus i glywed gan gymaint â phosibl o fudiadau amrywiol y sector ynghylch hyn.

Mae’r arolwg yn cynnwys nifer o gwestiynau sy’n ymwneud â’r Cynllun Gweithredu a rôl y sector gwirfoddol. Dylai gymryd oddeutu 15-20 munud i’w cwblhau. Mae croeso i chi ateb cymaint neu gyn lleied o gwestiynau ag y dymunwch.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â David Cook, Swyddog Polisi CGGC, ar dcook@wcva.cymru.
Bydd yr arolwg hwn yn cau ar 1 Hydref 2021.

Question Title

* 1. A fydd y Cynllun Gweithredu yn gwella cydraddoldeb i bobl LHDTC+? Pam ydych chi’n credu hyn?

Question Title

* 2. A ydych chi'n cytuno â'r nodau cyffredinol? A fyddech chi’n ychwanegu neu'n dileu rhai?

Question Title

* 3. A ydych yn cytuno â'r camau gweithredu sy’n cael eu cynnig? A fyddech chi’n ychwanegu neu'n dileu rhai?

Question Title

* 4. Beth yw'r prif heriau i’r sector gwirfoddol yn y Cynllun Gweithredu?

Question Title

* 5. Pa gyfleoedd mae’r Cynllun Gweithredu yn eu cyflwyno i’r sector gwirfoddol?

Question Title

* 6. Pa adnoddau, yn eich tyb chi, fydd yn angenrheidiol i’r sector gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu a amlinellir?

Question Title

* 7. A yw’r Cynllun yn ymdrin yn ddigonol â chroestoriadedd LHDTC+ â nodweddion gwarchodedig eraill, megis hil, crefydd neu gred, anabledd, oedran, rhywedd, a phriodas a phartneriaeth sifil? Os nad yw, sut gellid ei wella?

Question Title

* 8. A fyddai’r Cynllun yn effeithio’n negyddol neu’n gadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg? Os felly, sut?

Question Title

* 9. A fyddai’n well gennych chi weld Llywodraeth Cymru a CGGC yn defnyddio terminoleg arall yn lle LHDTC+

Question Title

* 10. Unrhyw sylwadau eraill?

Question Title

* 11. Mae’r cwestiynau canlynol yn opsiynol. Atebwch y rhain dim ond os ydych chi’n fodlon i CGGC gysylltu â chi o bosibl am ragor o fanylion ar eich ymatebion.

Enw

Question Title

* 12. Mudiad (os yw’n berthnasol)

Question Title

* 13. Cyfeiriad e-bost

Diolch am gwblhau’r arolwg hwn.
0 of 13 answered
 

T